skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


11 Gorffennaf 2008

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 – ADRAN 56(1)

AROLWG O’R FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cwblhau cam cyntaf ei arolwg o’r ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ac wedi cyhoeddi adroddiad ei Gynigion Draft.

Mae copïau o’r adroddiad, yn cynnwys mapiau sy’n dangos y cynigion, ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, WRECSAM, LL11 1WF; ac yn swyddfeydd y Comisiwn yng Nghaerdydd. Mae trefniadau’n cael eu gwneud hefyd i roi copïau o’r adroddiad ym mhob llyfrgell yn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae nifer cyfyngedig ar gael, drwy wneud cais, oddi wrth y Comisiwn. Gellir gweld yr adroddiad ar wefan y Comisiwn ar www.cflll-cymru.gov.uk.

Mae’r Comisiwn yn gwahodd unrhyw berson neu gorff sydd â diddordeb yn yr arolwg i anfon eu sylwadau yn ysgrifenedig at: Yr Ysgrifennydd, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, Tŷ Caradog, 1-6 Plas Sant Andreas, CAERDYDD CF10 3BE neu drwy e-bost at cflll.cymru@cymru.gsi.gov.uk erbyn 11 Awst 2008. Bydd y Comisiwn yn ystyried yn ofalus unrhyw gynrychiolaethau a wneir iddo cyn iddo gyflwyno’i Gynigion Terfynol i’r Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Sylwch y gall y sylwadau a dderbynnir gael eu cyhoeddi. Os nad yw’r ymatebydd yn dymuno datgelu ei enw/henw a’i gyfeiriad/chyfeiriad yn gyhoeddus rhaid datgan hyn yn benodol yn yr ymateb.

EDWARD LEWIS
(Ysgrifennydd)

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint