Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
05 Mehefin 2009
Mae rhan o gynsafle gwaith dur a chronfa ddwr wedi ei thrawsnewid yn ardal o barcdir a phwll pysgota i’w ddefnyddio gan y gymuned leol.
Mae gan yr ardal o amgylch pwll Brymbo lwybrau a giatiau, maes parcio a llwyfannau pysgota i bobl ag anableddau bellach yn dilyn buddsoddiad o dros £20,000.
Ceir hefyd ardal eistedd a bwrdd hysbysebu cymunedol newydd i roi gwybod am ddigwyddiadau lleol ac sy’n dangos treftadaeth ddiwydiannol cyfoethog a bywyd gwyllt yr ardal.
I ddathlu’r achlysur, cynhelir hwylddydd cymunedol ar y safle ddydd Sadwrn 6 Mehefin..
Mae ardal Brymbo wedi dioddef o ddirwasgiad diwydiannol ers dechrau’r 1980au gyda’r diwydiannau cynhyrchu dur, cloddio am lo a mwynau yn cau yn yr ardal.
Ond yn y ddwy flynedd ddiwethaf bu camau gwella sylweddol, yn bennaf drwy ailddatblygu safle cynwaith dur Brymbo. Mae datblygu’r pwll - a ddefnyddiwyd gan Glwb Pysgota Brymbo ers y 1970au - a’r ardal gyfagos yn gam pwysig arall yn adfywiad yr ardal.
Dywed David Edwell, Rheolwr Ardal Gogledd Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru “Pysgota yw gweithgaredd hamdden fwyaf poblogaidd y DU o bell ffordd - fe’i mwynheir gan oddeutu pedair miliwn o bobl o bob sector o’r gymdeithas. Gwyddom y byddai nifer tebyg hefyd yn dymuno rhoi cynnig arni.”
“Rydym am ddatblygu’r manteision cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn sgil pysgota i gymunedau, darparu mwy o gyfleoedd i bysgota, galluogi mwy o bobl i fynd i bysgota ac i’n pysgodfeydd wneud yn well. Mae’r datblygiadau ym Mrymbo yn ein helpu gyda hyn i gyd.”
Dywed Roy Evans o Glwb Pysgota Brymbo: “Yn amlwg dymunwn ddenu mwy o aelodau i’r Clwb Pysgota ond dymunwn hefyd annog trigolion lleol i ddod a mwynhau’r llecyn sydd ar garreg eu drws. Gobeithio y gall yr ysgolion lleol ddefnyddio’r safle fel adnodd addysgol, cynyddu nifer y rhywogaethau yn y pwll a chreu cynefin diogel ar gyfer bywyd gwyllt.”
Cefnogwyd y prosiect gan Dîm Datblygu Cymunedol Gorllewin Wrecsam Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dywed Hayley Morgan, Swyddog Prosiect Cymunedol: “Mae’r gwelliannau i bwll Brymbo a’r Hwylddydd Cymunedol yn enghraifft dda o sut gall grwpiau lleol bach wneud gwahaniaeth mawr yn eu cymuned.”
Ariannwyd y prosiect gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghyd â chyfraniadau ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Cymuned Brymbo, Bwrdd Partneriaeth Broughton a Phartneriaeth Gorllewin Wrecsam. Derbyniwyd cyfraniadau pellach gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol yn Wrecsam (AVOW) a Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd hwylddydd ddydd Sadwrn 6 Mehefin a gynhelir gan Glwb Pysgota Brymbo a Chymdeithas Chwaraeon Brymbo yn cynnwys crefftau’r awyr agored, stondinau grwpiau cymunedol a chystadleuaeth tynnu rhaff, teithiau treftadaeth, ras falwns a sesiynau rhoi cynnig ar bysgota a ddarperir gan arbenigwyr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Mae’r pysgod yn y pwll yn cynnwys y merfog, y draenog, y barfogyn, y carp, ysgreten a rhuddbysgodyn tra bo gan yr ardal gyfagos hefyd boblogaeth o lyffaint, adar gwyllt a nadroedd llwyd.