Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
09 Medi 2008
Moderneiddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff Ty Brymbo
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Ty Brymbo yn cau ddydd Sul, 14eg Medi tan ddiwedd mis Mawrth 2009.
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Ty Brymbo yn cau ddydd Sul, 14eg Medi tan ddiwedd mis Mawrth 2009.
Mae hyn yn digwydd er mwyn ailwampio a moderneiddio’r safle presennol yn llwyr er mwyn darparu cyfleusterau newydd a gwell i drigolion.
Mae’r safle’n rhy fach ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion y cymunedau o amgylch a bydd y gwelliannau yn cynorthwyo i gynyddu targedau ailgylchu Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Manteision y cyfleusterau newydd fydd:
- Mwy o ailgylchu
- Mwy o sgipiau ar gyfer mwy o fathau o wastraff
- Ffyrdd gwahanol ar gyfer lorïau trymion a cheir preifat
- Ni fydd raid cau safleoedd pan fydd sgipiau’n cael eu gwacáu
Yn y cyfamser, gall trigolion ddefnyddio safleoedd Ailgylchu Gwastraff Ty eraill yn Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a Wynnstay Bank, Plas Madoc, Acrefair.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Dave Bithell: "Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o gynllun cyffredinol i barhau i wella ailgylchu yn y Fwrdeistref Sirol ac yn ategu at adeiladu’r Cyfleuster Compostio ac Ailgylchu Gwastraff ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam. Tra bydd rhywfaint o anghyfleustra i drigolion yn ystod y cau, ar ôl ei hailwampio bydd Canolfan Ailgylchu Brymbo yn darparu mwy o sgipiau ar gyfer mwy o amrywiaeth o ailgylchu ac yn cael gwared â chau’r safle dros dro bob tro y bydd raid gwacáu sgip."
Gofynnir i drigolion wneud y defnydd mwyaf posibl o’r casgliadau ailgylchu wythnosol i gartrefi drwy’r cynllun Ailgylchwch gyda Michael.
Caiff Canolfan Ailgylchu Gwastraff Ty Brymbo ei redeg gan y Grwp Ailgylchu Gwastraff ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
NODYN I OLYGYDDION: Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Claire Brock, Uwch Swyddog Cyfathrebiadau ar 01978 292277 neu ebostiwch claire.brock@wrexham.gov.uk
|