Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
16 Medi 2008
Cyhoeddi Manylion Wythnos Fusnes Wrecsam
Y mis hwn cyhoeddir Rhaglen Wythnos Fusnes Wrecsam. Yn ei seithfed flwyddyn erbyn hyn, mae’r digwyddiad yn parhau i dyfu mewn maint a phoblogrwydd ac eleni bydd yn rhedeg o 20 – 24 Hydref 2008.
Bydd yr wythnos yn cael ei lansio gan Gyflwynydd Teledu’r BBC Siân Lloyd, ond hefyd bydd digwyddiadau proffil uchel gyda Simon Weston a’r cyflwynwyr teledu Melissa Porter, Jason Mohammed a Rory Cellan-Jones.
Cynhelir digwyddiadau mewn amryw o leoliadau o fewn y Fwrdeistref Sirol a bydd yn amrywio o seminarau bach i gynadleddau ac arddangosfeydd mawr, yn cynnwys ystod eang o bynciau’n ymwneud â busnesau. Lluniwyd digwyddiadau at anghenion pob math o fusnesau, o rai’n dechrau o’r newydd i’r rhai hynny gyda’r potensial i ddatblygu.
Dywed y Cyng Rodney Skelland, Aelod Arweiniol dros Archwilio Corfforaethol ac Adfywio: “Yn hanesyddol mae Wythnos Fusnes Wrecsam wedi denu cynrychiolwyr o bob cwr o Gymru a Gogledd Orllewin Lloegr, ynghyd ag o’r ardal leol. Mae’r wythnos yn rhoi’r cyfle i bobl fusnes rwydweithio a ffurfio partneriaethau newydd. Mae Wythnos Fusnes Wrecsam yn amlygu rôl Wrecsam fel gyrrwr economi Gogledd Cymru ac rwyf wrth fy modd bod ein partneriaid wedi cefnogi Cyngor Bwrdeistref Wrecsam unwaith eto i’n galluogi i gynnal y digwyddiad”.
Mae nifer o noddwyr yn gweithio gydag Adran Datblygu Economaidd y Cyngor i sicrhau llwyddiant y digwyddiad ac mae’r rhain i gyd yn cael eu hamlygu yn y rhaglen. Argraffwyd 90,000 o gopïau o’r rhaglen a chânt eu dosbarthu gan Bapurau Newydd Gogledd Cymru ledled Wrecsam a Sir y Fflint yn yr wythnos sy’n dechrau 15 Medi. Bydd copïau hefyd ar gael o swyddfeydd y Cyngor a gellir hefyd eu lawrlwytho o www.wrecsam.gov.uk/wfw. Gellir cael mwy o wybodaeth, a thocynnau i lawer o’r digwyddiadau, o Ganolfan Groeso Wrecsam ar 01978 292015.
|