Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

02 Mehefin 2009

Wythnos Gofalwyr Gendlaethol - Mehefin 8- 14

Sesiwn holi ac ateb gyda phanel o arbenigwyr yw un o’r digwyddiadau a gynlluniwyd i Ofalwyr yn Wrecsam fel rhan o ddathliadau Wythnos Gofalwyr Genedlaethol.

Nod Wythnos Gofalwyr a gynhelir o fis Mehefin 8 – 14 yw amlygu a dathlu’r cyfraniad anhygoel y mae gofalwyr yn ei wneud, gan rannu’r profiadau cadarnhaol yn ogystal â rhai anodd. Amcangyfrifir bod chwe miliwn o bobl ledled y DU yn darparu gofal di-dâl am rywun maent yn ei adnabod.

Bydd uchafbwyntiau’r wythnos yn cynnwys sesiwn holi ac ateb arbennig lle y bydd gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd yn gallu gofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr yng Nghapel y Groes ddydd Gwener 12 Mehefin am 11am - 1pm. Ar y panel fydd Andrew Figiel, (Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam), Mark Jones (Pennaeth y Gwasanaeth - arweinydd Gofalwyr), Damien Keogh (Hawliau Lles), y Cynghorydd John Lowe (Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol ac Iechyd) ac aelod o Fwrdd Iechyd Lleol Wrecsam. Gellir cyflwyno eich cwestiynau ymlaen llaw drwy ebostio carers@avow.org neu drwy ffonio 01978 318812.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill fydd sawl cyfarfod galw heibio drwy gydol yr wythnos; a bydd y cyntaf o’r rhain yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Llun 8 Mehefin, o 10am – 12pm. Bydd swyddogion gofal o Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam wrth law, ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill, i gynnig cyngor, cymorth ac arweiniad i ofalwyr yn y Fwrdeistref Sirol. Caiff gofalwyr y cyfle hefyd i gael triniaethau gan fyfyrwyr o Goleg Iâl a fydd yn darparu ystod o driniaethau harddwch a therapiwtig.

Bydd Cyngor Wrecsam hefyd yn cyflwyno blychau ‘awgrymiadau’ yn adeiladau’r cyngor a llyfrgelloedd lleol yn ystod yr wythnos. Yma bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu postio unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod ganddynt o ran gwasanaethau gofal yn yr ardal.

Ymhlith y gweithgareddau eraill yn ystod yr wythnos bydd picnic teuluol ym Mharc Gwledig Ty Mawr ddydd Sadwrn 13 Mehefin. Gall teuluoedd ddod â’u bwyd eu hunain a bydd nifer o weithgareddau i bawb gymryd rhan ynddynt. Bydd stondinau gwybodaeth ar Sgwâr y Frenhines yn ystod yr wythnos.

Bydd Maer newydd Wrecsam, y Cynghorydd Arwel Gwynn Jones hefyd yn cefnogi wythnos Gofalwyr drwy fynychu derbyniad arbennig i ofalwyr lleol yn y Neuadd Goffa ddydd Mercher.

Mae’r gwaith y mae gofalwyr yn ei wneud yn hollbwysig. Drwy roi gofal di-dâl i rywun maent yn ei adnabod sy’n sâl, yn fregus neu’n anabl, maent yn arbed swm anhygoel o £87 biliwn i economi’r DU. Er hyn – a’r ffaith y bydd un ymhob tri o bum person yn ofalwr ar ryw adeg yn eu bywydau – mae gofalwyr yn aml o dan anfantais ac mae diffyg cydnabyddiaeth ym mhob agwedd o’u bywydau.

Prif ganlyniad y diffyg cydnabyddiaeth hwn yw bod gofalwyr yn dioddef mwy nag sydd angen. Mae gofalwyr yn cael anhawster gydag arian (Lwfans Gofalwyr ar gost o £50.55 yw’r budd-dal isaf o’i fath), eu hiechyd, swyddi, bywyd cymdeithasol, a lles cyffredinol.

Bydd Wythnos Gofalwyr yn gweithio i fynd i’r afael â hyn drwy amlygu a dathlu’r cyfraniad anhygoel y mae gofalwyr yn ei wneud, rhannu’r profiadau cadarnhaol yn ogystal â’r rheiny sy’n fwy anodd.

Dywedodd Andrew Figiel, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam:

“Yn aml gofalwyr yw’r arwyr angof ac maent yn gwneud eu gwaith anhygoel heb ddiolch. Yn wir maent yn anhepgor. Nod Wythnos Gofalwyr Wrecsam yw amlygu a dathlu eu hymdrechion. Mae’n bwysig eu bod yn cael cymaint â chymorth â phosibl. Mae gofalwyr yn buddsoddi cymaint o egni ac ymrwymiad, ac mae’r gwaith maent yn ei wneud yn anhygoel. Gyda’r digwyddiadau yn Wrecsam a fydd yn para wythnos, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r rôl hollbwysig sydd ganddynt yn y gymdeithas.

“Mae gwella gwasanaethau cymorth i ofalwyr yn un o brif flaenoriaethau gwasanaethau Gofal Cymdeithasol eleni a byddwn yn parhau i weithio gyda gofalwyr ar y gwelliannau sydd eu hangen.”

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Gofalwyr, ewch i www.avow.org neu ffoniwch 01978 318812.

yn ôl i'r brig