Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

05 Mawrth 2010

Adolygiad Achos Difrifol ar Blentyn 2

Cyhoeddwyd Crynodeb Gweithredol Adroddiad Adolygiad Achos Difrifol dan arweiniad Bwrdd Lleol Diogelu Plant Wrecsam (LSCB). Mae’n berthnasol i achos baban 18 diwrnod oed a ddioddefodd anaf i’r pen a allai fod wedi peryglu bywyd o ganlyniad i amheuaeth o gam-drin gan roddwr gofal ym mis Mai 2008. Gwellodd y plentyn yn llwyr. Mae cyfrifoldeb statudol ar LSCB i adolygu’r fath ddigwyddiadau er mwyn nodi camau y gellid eu cymryd i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

Cynhyrchodd asiantaethau oedd yn ymwneud â’r plentyn a theulu’r plentyn adroddiadau’n dangos agweddau allweddol ar eu cyfranogiad. Rhoddodd yr adroddiadau hyn wybodaeth ar gyfer adroddiad trosolwg a luniwyd gan awdur annibynnol a benodwyd gan y Bwrdd Lleol Diogelu Plant. Anfonwyd yr adroddiad llawn at Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 25ain Mai 2009. Cyhoeddwyd Crynodeb Gweithredol yr adroddiad hwnnw heddiw ar ôl gorffen achos cyfreithiol ac ymchwiliadau’r heddlu i’r achos.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 4 argymhelliad sydd â goblygiadau i arferion. Derbyniodd y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yr argymhellion hyn a gweithredwyd pob un ohonynt.

Daeth yr Adolygiad Achos Difrifol i gasgliad mai’r un peth oedd yn peri pryder yn yr achos hwn oedd, pan archwiliwyd y plentyn i ddechrau yn Adran Ddamweiniau ac Argyfwng yr Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, nad ystyriwyd y posibilrwydd y gallai’r anafiadau fod wedi cael eu hachosi heblaw trwy ddamwain. 

Nododd yr Adolygiad Achos Difrifol elfennau sylweddol o arferion da ar draws y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant. Rhoddodd asiantaethau sylw ar unwaith i bryderon amddiffyn plant. Mae’r asiantaethau oedd yn rhan o’r adolygiad wedi cymryd camau i gyfleu canfyddiadau’r adolygiad i staff perthnasol.

Mae LSCB Wrecsam ac aelod-asiantaethau eisiau cydnabod fod anaf bwriadol i unrhyw blentyn yn ddigwyddiad sy’n tristáu’n fawr ac y byddwn yn dal i weithio mor agos ag y gallwn gyda’n gilydd i gadw plant yn ddiogel.

Adolygiad Achos Difrifol ar Blentyn 2 (Crynodeb Gweithredol)

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Adolygiad Achos Difrifol ar Blentyn 2 (Crynodeb Gweithredol) - Fersiwn Word 48Kb

Adolygiad Achos Difrifol ar Blentyn 2 (Crynodeb Gweithredol) - Ferswin PDF 101Kb

Adolygiad Achos Difrifol ar Blentyn 2 (Crynodeb Gweithredol) - Fersiwn Testun Plaen 47Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig