Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

19 Rhagfyr 2011

Gorsaf y Waun i gael £1.2 miliwn o gyllid

Dyrannwyd £1.2 miliwn i orsaf rheilffordd y Waun tuag at wella’r fynedfa. Cyhoeddwyd y pecyn cyllid gan yr Adran Drafnidiaeth fel rhan o’r cynnydd mewn buddsoddi i wella mynediad i orsafoedd ledled y wlad.

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn Mawrth 2014.

Gan weithio gyda chonsortia Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, Taith, bydd y gwelliannau yn ategu cyfres o welliannau i’r isadeiledd rheilffyrdd trwy ardal Wrecsam, yn cynnwys gwella’r gwasanaeth gwybodaeth i deithwyr ar lein y Gororau, gwella’r cyfleusterau parcio yng ngorsfaoedd Rhiwabon a’r Waun, gwella hygyrchedd yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam a’r bwriad i gyflwyno system camerâu teledu cylch cyfyng yng ngorsafoedd y Waun, Rhiwabon a Wrecsam Cyffredinol.

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

"Rydym ni’n croesawu’r gwelliannau ychwanegol hyn i’r isadeiledd rheilffyrdd ledled ardal Wrecsam. Bydd y gwelliannau hyn yn cynorthwyo i annog rhagor o deithwyr i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn ac maent yn adlewyrchu’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r trenau fel dull teithio. Mae’r cynlluniau arfaethedig yn adlewyrchu’r lobïo rydym ni wedi ei wneud trwy’r consortiwm cludiant ar gyfer gwelliannau i’r rheilffordd drwy ogledd Cymru. Maent yn rhan hanfodol o’n dull integredig o ymdrin â gwelliannau cludiant yma yn Wrecsam a thrwy ardal Taith.”

yn ôl i'r brig