Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
03 Mawrth 2010
Trigolion yn cael dweud eu dweud ar hen swyddfeydd y cyngorMae pobl leol yn cael dweud eu barn ar sut i anadlu bywyd newydd i hen swyddfeydd y cyngor yn y Waun.
Mae Ymddiriedolaeth Ddatblygu Gwyn Wylfa – a sefydlwyd i adfywio’r adeilad a fu’n wag yn hir – wedi anfon holiadur at drigolion yn gofyn sut fyddent yn hoffi gweld ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Meddai Mick Ramsey, un o’r gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â sefydlu’r ymddiriedolaeth: “Fe anfonwyd yr holiadur gennym oherwydd ein bod yn awyddus i wybod sut mae trigolion yn meddwl y byddai modd defnyddio’r adeilad i elwa’r Waun.
“Ymhlith yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd mae canolfan ymwelwyr a threftadaeth, a chaffi. Mae’n gynnar iawn ac ni allwn ddweud eto sut fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio, ond cofnodwyd y canlyniadau fel bod modd edrych arnynt wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.”
Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth gan wirfoddolwyr lleol gyda chefnogaeth Cyngor Wrecsam, pa mae’n dal i berchen y safle ar Ffordd y Castell.
Mae’r grŵp yn gobeithio cael prydles gan y Cyngor fydd yn caniatáu iddi yrru ymlaen i adnewyddu’r adeilad yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae gwaith ar y gweill i newid cynllun y maes parcio blaenorol ar y safle. Mae’r Cyngor yn troi’r lle yn faes parcio cyhoeddus, gyda disgwyl i’r gwaith gael ei orffen yn gynnar ym mis Ebrill.
Y gobaith yw y bydd parcio ychwanegol yn helpu denu ymwelwyr i Bont Ddŵr y Waun gerllaw, sydd – ynghyd â Phontcysyllte – yn ffurfio rhan o Safle newydd Treftadaeth y Byd.