Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

15 Mehefin 2012

Gwahoddiad i geisio arian o Gronfa Deddfau Eglwys Cymru

Mae Cyngor Wrecsam yn gwahodd ceisiadau am arian o Gronfa Deddfau Eglwys Cymru.

Byddent yn ystyried y ceisiadau ym mis Medi 2012 a dylai unrhyw sefydliad sydd eisiau ymgeisio gyflwyno eu ffurflen gais gyflawn erbyn 31 Gorffennaf 2012. Gofynnwn i ymgeiswyr sydd wedi derbyn grant yn ystod y ddwy flynedd flaenorol nodi na fydd cais dilynol yn debygol o lwyddo.

Fis Medi diwethaf, dyfarnodd y Cyngor grantiau werth cyfanswm o £7,791.38 o Gronfa Deddfau Eglwys Cymru. Dyfarnwyd y grantiau yma i 25 o gyrff oedd yn ceisio cymorth i dalu cost offer neu brosiectau penodol megis gwaith adnewyddu. Defnyddir y gronfa i roi cymorth ariannol i bwrpasau elusennol i gyrff sy’n gweithio yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd ag amcanion sy’n cyfateb â meini prawf y cynllun.

Wrth ddosbarthu’r arian rhoddir blaenoriaeth i Sefydliadau sy’n cefnogi Cyfleusterau Cymdeithasol a Hamdden, Mannau Addoli a Mynwentydd a Phobl Ddall a Hyn. Y swm mwyaf a fydd ar gael fydd £500.

Gallwch gael ffurflenni cais a rhestr o feini prawf y grant ar wefan rhyngrwyd y Cyngor ar www.wrexham.gov.uk, drwy’r post gan Bennaeth yr Adran Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryd y Lampint, Wrecsam LL11 1AR neu ar y ffôn gan Mr Karl Griffiths (01978) 292724.

yn ôl i'r brig