Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
31 Gorffennaf 2007
Gwaith yn dechrau ar adeiladu’r sinema newydd
Bydd gwaith i godi fframwaith dur ychwanegol i’r adeilad yn Nôl yr Eryrod yn dechrau, yn dilyn y cyhoeddiad mai Odeon Cinema yw’r busnes diweddaraf i ymuno â’r datblygiad.
Bydd y sinema yn agor yn 2009 ar ôl i weddill y datblygiad agor ym mis Medi 2008. Mae’n rhaid i’r gwaith ddechrau ar unwaith er mwyn sicrhau nad yw gweddill y gwaith yn cael ei oedi a bod gan y busnesau cyfagos, sef Marks & Spencer a Debenhams, amser i gwblhau’r gwaith ar eu siopau cyn yr agoriad.
Er mwyn galluogi’r gwaith i gael ei gwblhau, rhaid codi craen anferth ger y ffordd gyswllt newydd sydd gerllaw’r datblygiad ac sydd rhwng Ffordd Sir Amwythig a Ffordd Smithfield. Bydd angen cau'r ffordd gyswllt newydd am ddeuddydd er mwyn codi’r craen.
Bydd y ffordd ar gau o 10.00am ddydd Iau 2 Awst hyd 4.00pm ddydd Gwener 3 Awst. Tra bydd y ffordd ar gau, bydd traffig sy’n teithio i Wrecsam ar hyd yr A525 Ffordd Sir Amwythig neu’r A5152 Ffordd Rhiwabon yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y ffordd gylchol fewnol sef yr A5152. Bydd y ffordd arall wedi ei harwyddo’n unol â hyn. Cedwir mynediad i Stryt y Marchog, Ffordd y Nant a Ffordd Caia, nad ydynt yn cael eu heffeithio oherwydd cau’r ffordd. Bydd staff rheoli traffig yn bresennol mewn safleoedd strategol i gynorthwyo modurwyr i gyrraedd pen eu taith.
|