Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
12 Medi 2008
Prosiect Llwybr Coedpoeth
Mae cymuned Coedpoeth wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Wrecsam dros y 12 mis diwethaf i wella’r rhwydwaith o lwybrau o fewn eu hardal.
Bu gwirfoddolwyr llwybrau’n cynnwys Jeanette Blackford, Pat Murray, Ben Jones, George Williams, Stephen Taylor, Barry Rogers, Moira Humphreys a Jackie Crosby yn gwneud arolwg o’r hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghoedpoeth a rhannau o’r Mwynglawdd y llynedd a chyhoeddwyd adroddiad ganddynt ar gyflwr y llwybrau. Lluniwyd rhaglen o’r gwaith oedd ei angen ac mae contractwyr nawr yn gorffen y gwaith amrywiol. Codwyd giatiau, camfeydd a phontydd a chliriwyd sawl can metr o ordyfiant. Mae taith gerdded gylchog yn cynnwys rhai o’r llwybrau sydd wedi’u gwella yn cael ei baratoi.
Ariennir y prosiect gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar sail 50/50. Mae Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint yn rheoli’r gwaith ar y tir ac yn sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario’n ddoeth.
Bwriad y Cyngor yw agor yr holl lwybrau i gyflwr diogel a hybu eu defnydd. Bydd gwirfoddolwyr yn cerdded y llwybrau o leiaf unwaith y flwyddyn a thorri’n ôl unrhyw ordyfiant blynyddol sy’n dechrau gorchuddio’r camfeydd. Byddant yn adrodd i’r Cyngor am unrhyw broblemau mwy. Cafwyd addewid gan y Cyngor i roi blaenoriaeth i faterion o’r fath ar yr amod fod adnoddau’n caniatáu. Dylai hyn oll gadw’r llwybrau’n agored ac mewn cyflwr da am lawer o flynyddoedd.
Gobeithir y bydd teithiau cerdded o’r pentref a drefnir gan Walkabout Wrecsam a’u harwain gan wirfoddolwyr yn dod yn arferiad rheolaidd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect neu’r teithiau cerdded gysylltu ag Alison Whitley ar 01978 297194 neu Groundwork ar 01978 757524.
|