Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
11 Mawrth 2010
Unwaith eto gall grwpiau cymunedol yng Ngorllewin Wrecsam gael hyd at £250 i’w helpu gyda’u gweithgareddau.
Dyma’r drydedd flwyddyn y bydd Partneriaeth Gorllewin Wrecsam, ar y cyd ag Adran Datblygu Economaidd Cyngor Wrecsam, yn gweinyddu’r Cynllun Grantiau Bychain.
Gall y cynllun dalu am brosiectau o fis Ebrill 2010 tan fis Mawrth 2011 sy’n cynnwys pobl leol yn eu cymuned leol, ac sy’n cwmpasu’r ardaloedd: Coed-poeth, Gwersyllt, Brymbo, Rhosrobin, Bradle, Bryn-teg, Moss, Brynhyfryd, Pentre Broughton, Southsea, Lodge, Llai, New Broughton, Tan-y-fron, Cae-go a’r Pandy.
Y llynedd, gwnaeth dros 30 o grwpiau cymunedol gais llwyddiannus am arian. Cynorthwyodd y cynllun brynu seddau newydd a bwrdd hysbysebion cymunedol ar gyfer ardal hamdden pentref, helpodd clwb cinio newydd ei ffurfio trwy dalu am logi ystafelloedd a chynorthwyodd glwb cyfrifiadur brynu offer newydd a chreu taflen newyddion gymunedol.
Meddai David Millington, cadeirydd Partneriaeth Gorllewin Wrecsam: “Bydd grantiau o hyd at £250 ar gael a allai wneud gwir wahaniaeth i grwpiau cymunedol lleol.
“Mae modd defnyddio grant i sefydlu grwp, cynorthwyo gyda llogi man cyfarfod, cyhoeddusrwydd neu fel cyllid cyfatebol i ddenu symiau mwy o arian.
“Gallai prynu offer newydd neu gynnal achlysur cymunedol fod yn gymwys hefyd ac, felly, byddwn yn annog grwpiau presennol a newydd i gysylltu â ni.”
Mae cymorth a chefnogaeth gyda sefydlu grwpiau a gweithgareddau cymunedol newydd i’w cael gan Dîm Datblygu Cymunedol Gorllewin Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth a phecyn gwneud cais am grant, ffoniwch 01978 722995.