Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
01 Mehefin 2009
Bydd cerddoriaeth fyw, helfa drysor, gwneud barcutiaid, ac ysgytffrwythau ar gael am ddim fel rhan o Ddiwrnod Allan yn Wrecsam, sef achlysur cymunedol arbennig a fydd yn digwydd ddydd Sadwrn 6 Mehefin yn Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines.
Bydd Cyngor Wrecsam yn un o blith 80 o sefydliadau, gwasanaethau a grwpiau cymunedol gyda stondinau a gweithgareddau i’r holl deulu ar y diwrnod. Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal arddangosfeydd a bydd cerddoriaeth fyw ac adloniant drwy gydol y dydd. Bydd Her Iechyd Wrecsam hefyd yn cynnig ysgytffrwythau am ddim a sesiynau pêl-rwyd mewn ymgais i annog pobl i fyw bywydau’n iach. Bydd arbenigwyr wrth law hefyd ym mhabell fawr Her Iechyd Wrecsam ar Lwyn Isaf i roi cyngor ar gadw pwysau iach a chyrraedd targedau mynegai mas y corff delfrydol (bmi). Bydd nyrsys lleol hefyd wrth law i fesur eich pwysedd gwaed, lefelau colesterol, a lefelau glwcos eich gwaed.
Bydd digonedd i’w wneud i blant a phobl ifanc hefyd, gyda helfa drysor llawn hwyl i blant. Bydd rhywbeth at ddant y rheiny sy’n hoff o gemau hefyd gyda Nintendo Wii a sialens Guitar Hero ar Sgwâr y Frenhines.
Bydd aelodau o’r grŵp ‘Parkour’ lleol hefyd wrth law i gyflwyno arddangosfa. Mae Parkour yn cynnwys rhedeg, neidio, llofneidio, a dringo dros rwystrau mewn amgylcheddau naturiol neu drefol i fynd i ble rydych am fynd yn yr amser cyflymaf posibl. Gall rhwystrau fod yn rhywbeth o reilen sy’n rhwystro eich llwybr, set o risiau lle y byddai’n haws neidio i lawr yn hytrach na rhedeg neu wal fawr lle y byddai’n gyflymach o lawer i neidio drosodd na rhedeg o’i hamgylch.
Bydd sawl stondin a sefydliad wrth law i gynnig cyngor a chymorth, fel Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Wrecsam, Shopmobility a Chymorth i Denantiaid.