Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

30 Rhagfyr 2011

Ydych chi am ddweud eich dweud mewn gwleidyddiaeth leol?

Mae Cyngor Wrecsam yn cynnal noson agored ar gyfer trigolion sy’n ystyried sefyll yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

Yn aml bydd ymgeiswyr etholiadol yn deall y darlun ehangach am lywodraeth leol, ond unwaith y byddant wedi eu hethol byddant yn sylweddoli nad ydynt wedi amcangyfrif yr ymarferoldeb o fod yn gynghorydd a sut mae cynghorau lleol wedi eu strwythuro.

Bydd y noson agored yn gyfle i gael dealltwriaeth o beth a ddisgwylir gan gynghorydd lleol a sut mae’r awdurdod lleol yn gweithio a’i gyfrifoldebau cymunedol. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar y broses etholiad ac anghenion cynghorydd newydd ei ethol.

Dywedodd Trevor Coxon, Pennaeth Gwasanaeth Corfforedig a Chwsmeriaid:

"Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad o’r math hwn gael ei drefnu yn Wrecsam a gobeithiwn y bydd yn llwyddiannus. Unwaith y bydd cynghorwyr wedi eu hethol, mae ganddynt gyfrifoldeb mawr i etholaeth y gymuned y byddant yn eu cynrychioli a chymuned ehangach Wrecsam. Rydym am annog trigolion Wrecsam i wynebau’r sialens a chyfleoedd llywodraeth leol ond rydym am iddynt fod yn barod am y gofynion arnynt o ddechrau eu cyfnod yn y swydd.”

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Llun 23 Ionawr rhwng 6.00 ac 8.00 pm. Dechreua gyda chyflwyniadau am y cyngor a’r her mae’n ei wynebu ar hyn o bryd, ei flaenoriaethau corfforedig a’r cyswllt ag awdurdodau a sefydliadau eraill a rôl y cynrychiolydd yn y mentrau hyn.

Bydd swyddogion wrth law i ateb unrhyw gwestiynau unigol ac er mwyn rhoi gwybodaeth am eu hadrannau arbennig. Bydd gwybodaeth am ganllaw diwygiedig i ymgeiswyr y WLGA, gwybodaeth am weithio mewn wardiau unigol, amrywiaeth a nifer y cyfarfodydd rhestredig drwy gydol y flwyddyn, gwybodaeth am weithio gyda’r cyfryngau, yr hyfforddiant sydd ar gael yn arbennig i gynghorwyr newydd a’r math o gefnogaeth all cynghorydd lleol ei ddisgwyl.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu gysylltu â Peter Mullen, 01978 292235 neu dewch draw ar noson y 23ain.

yn ôl i'r brig