skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


14.05.04

Cynigion datblygu arloesol wedi’u dewis ar gyfer Dôl yr Eryrod

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi dewis datblygiad cyffrous ac arloesol fydd yn newid gwedd Dôl yr Eryrod, Wrecsam.

Gwnaed y cynnig, sy’n werth sawl miliwn o bunnoedd, gan y datblygwyr Wilson Bowden a’u partneriaid Bernard Engle, Penseiri.

Bydd y trawsffurfiad yn cynnwys siop adrannol ac ali fowlio, yn ogystal â lle ychwanegol ar gyfer manwerthu, caffes a bwytai a fflatiau preswyl, fydd yn rhoi bywiogrwydd newydd i’r ardal. Mae’n rhan arall o’r jig-so sydd wedi gweld Wrecsam yn trawsffurfio o fod yn dref farchnad draddodiadol i fod yn ganolfan fanwerthu o bwysigrwydd rhanbarthol. Bwriedir dargyfeirio’r gylchffordd fewnol (gan gynnwys yr hyn a adnabyddir yn lleol fel trosffordd Asda) er mwyn gwella llif y traffig a hygyrchedd fel rhan o’r ailddatblygiad.

Llun o dol yr eryrod newydd

Bydd y cynllun pwysig hwn yn dod â 225,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr ar gyfer manwerthu, a bydd y siop adrannol yn llenwi 85,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr ar gyfer manwerthu. Mae’r dyluniad cysyniadol yn cynnwys llwybrau i gerddwyr a marchnadfaoedd, gan ddod â bywyd dinesig i Wrecsam. Bydd y defnydd o leoedd parcio ar gyfer dros 1000 o gerbydau ar lefel y llawr, gyda lefelau’r adeilad wedi’u codi i gydfynd â’r strydlun cyfagos yn mwyhau’r cysylltiadau â chanol y dref.

Dôl yr Eryrod oedd lleoliad yr archfarchnad Asda flaenorol, ac fe’i defnyddir ar hyn o bryd fel maes parcio.

Llun o dol yr eryrod newydd

Dywedodd Paul Roberts, Cyfarwyddwr Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Derbyniasom sawl cyflwyniad rhagorol yn rhoi cynigion i newid wynebwedd y rhan hon o Wrecsam. Fodd bynnag, roedd y syniadau, y dyluniadau a’r weledigaeth a gynigiwyd gan Wilson Bowden a’r pensaer Bernard Engle yn arbennig. Roedd Aelodau yn ystyried eu cynigion yn arloesol a ffres – datblygiad fydd yn trawsffurfio’r rhan hon o’r dref ac yn sail i adfywiad parhaus Wrecsam.”

Dywedodd y Prif Weithredwraig, Isobel Garner: “Rydym yn falch iawn bod gweithrediadau manwerthu a hamdden o safon wedi dangos ffydd ym mhotensial Wrecsam. Mae hon yn rhan arall o’r jig-so ar gyfer trawsffurfiad canol tref Wrecsam, ac mae ein trigolion a’n hymwelwyr yn ei haeddu. Mae Wrecsam eisoes yn ganolfan fasnachol a manwerthu hynod lwyddiannus, a gallai’r cynnig diweddaraf wneud dim ond cynyddu ein safle yn Genedlaethol. ”

Dywedodd Nick Richardson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wilson Bowden Developments: “Rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Dôl yr Eryrod. Credwn y gallwn helpu Wrecsam i adeiladu ar lwyddiannau diweddar a gwella’r dref ymhellach fel lleoliad adloniadol a manwerthu.
“Rydym hefyd yn gweld potensial sylweddol i ddarparu fflatiau preswyl dinesig, ac rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y prosiect hwn.”

Dywedodd Chris Wieszczycki o Bernard Engle Architects: “Mae angen i Wrecsam adeiladu ar ei chymeriad atyniadol fel tref farchnad.
“Dyna pam y dyluniwyd ein cynllun o gwmpas cyfres o leoedd trefol, deinamig newydd sydd wedi’u hintegreiddio o fewn rhwydwaith o strydoedd a sgwariau sy’n bodoli eisoes.
“Bydd yr adeiladau gwahanredol newydd yn darparu mynediad trawiadol i ganol y dref.
“Mae ein cysyniad yn cydnabod amlygrwydd Eglwys Blwyf San Silyn gan wneud ei meindwr yn ganolbwynt i’r brif promenâd i gerddwyr.”


 

 

 
English
 

Newyddion y Cyngor

Archif Newyddion
Cysylltiadau Newyddion
Datganiad i'r wasg a rhybuddion nghylch cynnyrch
Dychwelyd i Dudalen Newyddion y Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint