Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
14.03.05
Debenhams wedi’i enwi fel y siop adrannol flaenllaw ddatblygiad Dôl yr Eryrod yn Wrecsam
Mae Debenhams wedi’i enwi fel y siop adrannol flaenllaw a fydd yn ganolog i ddatblygiad enfawr a llawn dychymyg Dôl yr Eryrod yn Wrecsam, ac mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu’r newyddion eu bod wedi arwyddo cytundeb prydlesu am siop 90,000 troedfedd sgwâr ar y safle.

Cyhoeddwyd y newyddion wrth i’r cynlluniau, a ddatguddiwyd gan Wilson Bowden Developments a phenseiri’r datblygiad, Bernard Engle, ddangos datblygiad manwerthu, hamdden a phreswyl mawr sydd wedi’i hadeiladu o gwmpas “grisiau Sbaenaidd” gan roi golygfeydd ysblennydd o Eglwys San Silyn. Yn ogystal â siop Debenham’s, mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys sinema, canolfan fowlio 10 gyda 24 lôn, a bwytai ar gyfer teuluoedd. Mae 50 o fflatiau cyfoes a maes parcio deulawr diogel ar gyfer 1,000 o gerbydau, ynghyd â system ffyrdd well, mynediad hawdd i ymwelwyr anabl a darpariaeth Shopmobility yn cwblhau’r ailddatblygiad sy‘n werth £95 miliwn.
Bydd trawsffurfiad yr ardal hon yn ddatblygiad arall o ansawdd uchel sydd wedi gweld Wrecsam yn trawsnewid o fod yn dref farchnad draddodiadol i ganolfan siopa fwyaf poblogaidd yr ardal. Mae’r trawsffurfiad hwn o ganlyniad i gydweithio rhwng cyrff preifat a chyhoeddus, ac fe gyflwynir cais cynllunio ar y cyd i Adran Gynllunio Cyngor Wrecsam cyn diwedd y mis.

Y gobaith yw y gallant ddechrau gweithio ar y safle erbyn diwedd y flwyddyn, a’i gwblhau yn 2008. Bydd y cynllun yn creu gwaith yn ystod y broses adeiladu, ac yn y tymor hir, bydd cannoedd o swyddi manwerthu newydd yn cael eu creu.
Bydd y cynlluniau ar gyfer yr ardal gyfan yn cael eu harddangos i’r cyhoedd ddydd Mawrth a dydd Mercher yn Llyfrgell Wrecsam, a gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i lenwi holiadur gan roi eu barn.
Dywedodd Paul Roberts, Cyfarwyddwr Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
“Mae’r cynllun hwn yn un arloesol ac adfywiol, ac mi ddaw â bywyd newydd i’r rhan hon o Wrecsam. Mae’n galonogol fod siop adrannol fawr fel Debenham’s wedi cydnabod pwysigrwydd Wrecsam fel yr ardal fanwerthu orau a mwyaf yng ngogledd Cymru, a byddem yn falch iawn o’u croesawu i’r ardal.”
Dywedodd Nick Richardson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wilson Bowden Developments:
“Rydym yn falch iawn bod Debenham’s wedi cytuno i fod yn ganolog i’r cynllun arloesol hwn a fydd yn sicrhau safle Wrecsam fel canolfan fanwerthu. Bydd datblygiad Dôl yr Eryrod yn adfywio’r rhan hon o’r dref, ac yn destament i gydweithio rhwng cyrff cyhoeddus a phreifat. Edrychwn ymlaen at groeso ffafriol i’r cais cynllunio ar y cyd ac i’r caniatâd i’n galluogi i ddechrau gweithio ar y safle cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd Chris Wieszczycki, Cyfarwyddwr Bernard Engle Architects:
“Rydym yn adeiladu ar dreftadaeth hanesyddol Wrecsam, gan ddod â’i chymeriad fel tref farchnad a’i strydlun agored i graidd y datblygiad. Bydd Wrecsam yn ennill tirnod pensaernïol pwysig a ffocws newydd ar gyfer bywyd canol y dref sydd ar agor ac yn hygyrch tan yn hwyr gyda’r nos.”
Cliciwch yma i wylio ffilm y ddatlblygiad
|