skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


10.05.06

Safle Dôl yr Eryrod wedi’i roi yn nwylo’r datblygwyr

Trosglwyddwyd safle Dôl yr Eryrod i’r datblygwyr Wilson Bowden Developments yn ffurfiol ddechrau’r mis hwn.

Caiff yr hen faes parcio ar hen safle Asda ei drawsffurfio dros y ddwy flynedd nesaf i gynhyrchu datblygiad manwerthu, hamdden a phreswyl cyffrous a fydd yn trawsffurfio ardal Smithfield yng nghanol tref Wrecsam. Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun sy’n werth £110 miliwn yn cynnwys siop adrannol Debenhams a fydd yn 90,000 troedfedd sgwâr, ali fowlio deg 24 lôn, dros 30 o unedau manwerthu eraill, fflatiau preswyl a dewis eang o gaffis a bariau. Mae nifer o fanwerthwyr a gweithredwyr hamdden mewn trafodaethau gyda’r datblygwyr ac mae lle wedi’i ddarparu ar gyfer oddeutu 1,000 o fannau parcio ceir.

Dywedodd Mr Nick Richardson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wilson Bowden Developments, yn y seremoni drosglwyddo: “Rydym yn falch iawn o gael bod yn gysylltiedig â phrosiect mor fawreddog ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein cysylltiadau gwaith â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae hwn yn brosiect mawr ar gyfer yr holl bartneriaid gwaith ac mae heddiw’n garreg filltir tuag at ei gwblhau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Dutton OBE, Dirprwy Arweinydd CBSW ac aelod arweiniol dros Ffyniant Economaidd: “Mae cyfnod hir o weithio a chynllunio wedi bod yn gysylltiedig â chyrraedd y cam hwn. Rwy’n bendant yn falch o’r prosiect hwn ac rwy’n credu y bydd o fudd mawr i’r economi leol. Bydd y cynigion manwerthu a hamdden newydd a ddaw i’r ardal yn rhoi hwb pellach i’n enw da fel canolfan siopa ar gyfer y rhanbarth cyfan.”

Bydd gwaith yn dechrau ar y safle'r mis hwn ac mae system unffordd wedi’i chyflwyno o amgylch perimedr y safle er mwyn gallu adeiladu ffyrdd mynediad newydd ac er mwyn dymchwel y drosffordd yn y pendraw. Disgwylir y bydd y datblygiad ar agor yn 2008 ac y bydd yn dod â busnesau newydd a chyfleoedd gwaith i’r dref.

 
English
 

Newyddion y Cyngor

Archif Newyddion
Cysylltiadau Newyddion
Datganiad i'r wasg a rhybuddion nghylch cynnyrch
Dychwelyd i Dudalen Newyddion y Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint