Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
25.10.06
Dol Yr Eryrod Yn Dechrau Ymffurfio
Mae datblygiad Dôl yr Eryrod, sef canolfan siopa a hamdden newydd Wrecsam, yn dechrau ymffurfio dim ond dwy flynedd ers i Wilson Bowden Developments lofnodi cytundeb partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dechreuodd y gwaith o godi’r adeilad yn Nôl yr Eryrod heddiw pan osodwyd y darnau dur a fydd yn ffurfio strwythur y datblygiad. Cynhaliwyd seremoni ar y safle i ddathlu’r achlysur a fynychwyd gan Aelod Arweiniol y Cyngor dros Ffyniant Economaidd, Rheoli Asedau a Diwylliant, y Cynghorydd Bob Dutton OBE, Paul Roberts, Cyfarwyddwr Strategol yng Nghyngor Wrecsam a Nick Richardson, Rheolwr Gyfarwyddwr datblygwyr Dôl yr Eryrod, Wilson Bowden Developments.
Mae’r gwaith adeiladu yn Nôl yr Eryrod, sef datblygiad sy’n mesur 400,000 troedfedd sgwâr, yn symud ymlaen yn dda. Dechreuodd gwaith ar y safle ym mis Mai eleni ac mae’r sylfeini wedi’u gosod a’r gwaith wedi dechrau ar gylchffordd newydd a fydd yn dargyfeirio traffig o drosffordd ‘Asda’ o gwmpas y datblygiad.
Dywedodd Nick Richardson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wilson Bowden Developments:
“Gwnaed cryn dipyn o waith i gyrraedd y cam hwn o’r gwaith datblygu a gwnaed y gwaith caled hwn yn haws gan ein partneriaid datblygu, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam – rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw.”
Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton OBE, Aelod Arweiniol: “Mae’r datblygiad yn dechrau ymffurfio ac erbyn hyn bydd y cyhoedd yn dechrau gweld sut mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Wrecsam yn dechrau cael ei gwireddu. Mae ansawdd y manwerthwyr sydd eisoes wedi cytuno i fod yn rhan o’r datblygiad hwn yn amlygu pwysigrwydd Wrecsam fel canolfan fanwerthu. Er enghraifft, nid oes siop Debenhams yng nghanol y dref ar hyn o bryd.
Pan fydd y datblygiad wedi’i gwblhau, bydd yn cynnwys siop Debenhams 90,000 troedfedd sgwâr a chanolfan bowlio deg â 24 lôn yn ogystal â 40 o unedau manwerthu eraill. Bydd maes parcio tanddaearol yn cael ei adeiladau hefyd gyda lle i 1,000 o geir.
Dyluniwyd y cynllun o gwmpas marchnadfa agored sy’n integreiddio canol y dref gan ffurfio llwybrau rhwng Stryt Yorke a Stryd yr Hôb.
Wrth wneud sylwadau am y broses osod hyd yma, dywedodd y Cyfarwyddwr Datblygu, Will Robinson: “Rydym yn hapus iawn ag ansawdd yn manwerthwyr sydd wedi cytuno i fod yn rhan o’r datblygiad hyd yma ac rydym yn siarad gyda manwerthwyr eraill sy’n awyddus i gael lle yn natblygiad Dôl yr Eryrod ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd Paul Roberts, Cyfarwyddwr Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Dôl yr Eryrod yn gynllun pwysig i Wrecsam a fydd yn mwyhau ein tref yn fawr gan droi Wrecsam yn ganolfan fanwerthu o bwysigrwydd rhanbarthol.”
Bydd Dôl yr Eryrod yn creu buddion economaidd helaeth i’r rhanbarth gan greu swyddi a chyflwyno busnesau newydd i’r dref.
Disgwylir i’r datblygiad yn Nôl yr Eryrod gael ei gwblhau yn haf 2008.
Dewiswyd Wilson Bowden Developments fel y partneriaid dewisol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 2004.
Dyluniwyd y cynllun gan y penseiri Bernard Engle.
Yr asiantau gosod ar gyfer y cynllun yw Cushman & Wakefield a Jones Lang Lasalle.
|