skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


25 Medi 2008

Rheoli Traffig ar Gyfer Agoriad Dôl yr Eryrod

Fel y mae agoriad datblygiad manwerthu a hamdden newydd Wrecsam yn agosáu mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi cynlluniau i osod trefniadau rheoli traffig dros dro i osgoi tagfeydd yn ystod y dyddiau agor ac yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar waith o Swyddfa Dai y Cyngor neu o Ysgol Clywedog ar Ffordd Rhuthun o ddydd Iau 30ain Hydref hyd at ddydd Sadwrn 1af Tachwedd a bydd yn parhau ar waith bob dydd Sadwrn hyd at y Nadolig. Bydd yn rhedeg bob 15 munud am gost o 60c yn unig.

Hefyd bydd bws ar gael o’r arosfan bysiau yn Stryt y Brenin i’r datblygiad i helpu’r rheiny sy’n teithio ar fws i ganol Wrecsam

Bydd arwyddion dros dro ar y prif deithiau i mewn i Wrecsam i arwain modurwyr i’r parc mwyaf priodol. Cyfeirir traffig sy’n teithio o Gaer i’r datblygiad oddi ar yr A483 yng nghyfnewidfa Gresffordd ac i mewn i’r dref ar hyd yr A5152 Ffordd Caer. Cyfeirir traffig sy’n teithio o ardal Croesoswallt oddi ar yr A483 yng nghyfnewidfa Croesfoel ac ar hyd yr A5152 Ffordd Rhostyllen.

Ni fydd traffig sy’n teithio o’r Wyddgrug yn cael ei gyfeirio ond bydd y daith arferol i Stryt y Rhaglaw ac i ganol y dref yn parhau.

Pebai maes parcio Dôl yr Eryrod yn llenwi mae trefniadau ar y gweill i godi arwyddion dros dro yn Ffordd Caer, Ffordd Bradle a Ffordd y Tylwyth Teg i gynghori modurwyr i ddefnyddio meysydd parcio canol y dref eraill neu wasanaeth Parcio a Theithio p’un bynnag sy’n fwyaf priodol.

Cytunwyd hefyd na fydd gwaith ffordd arfaethedig yn digwydd yn ystod cyfnod y disgwylir iddo fod yn eithriadol o brysur. Dim ond gwaith ffordd brys fydd yn digwydd.

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant:

"Yn amlwg, bydd y datblygiad o bwys hwn yn dod â llawer o ymwelwyr newydd i Wrecsam ac mae’n bwysig iawn bod llif traffig yn cael ei gynnal yn ystod amseroedd prysur. Bydd y trefniadau parcio a theithio yn aros yn eu lle bob dydd Sadwrn hyd at y Nadolig i leddfu tagfeydd traffig yng nghanol y dref. Bydd gwasanaethau bysiau ar gael ar y safle a chyfeirir ymwelwyr fydd yn teithio mewn ceir i Wrecsam i’r meysydd parcio ledled canol y dref i osgoi parcio ar strydoedd."

Ar 30ain Hydref disgwylir i ymwelwyr dyrru i ganol tref Wrecsam lle bydd manwewrthwyr Debenham's, Marks and Spencers, H&M, Bank, a mannau bwyta fel Nandos, Pizza Express a Frankie and Benny’s, ac ale bowlio deg yn agor eu drysau. Bydd hyn yn creu cannoedd o swyddi a rhoi Wrecsam ymhlith y 100 cyrchfan manwerthu uchaf yn y DU.

Bydd siopau eraill yn agor ym mis Tachwedd gan gynnwys Top Shop, Top Man, Dorothy Perkins, Wallace and Burtons.

Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i ddenu busnesau i ganol y dref. Mae ei gyfleusterau manwerthu newydd bellach cystal â rhai eraill yn y DU ac mae hyn yn rhoi siawns i Wrecsam fod yn y ras i siopau eraill ystyried agor yn y dref. Mae siop Laura Ashley wedi agor yn ddiweddar yng nghanol y dref yn ogystal â lleoliad hamdden newydd yng nghalon canol y dref. Agorodd y Lounge ei ddrysau’n ddiweddar mewn adeilad sydd wedi cael ei adnewyddu’n llwyr yn Stryt y Frenhines, sef tafarn y Talbot gynt.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint