Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
03 Mawrth 2010
Cyngor Cymuned Offa’n Cyhoeddi Cyfraniad i Gronfa Eisteddfod 2011Heddiw (22 Chwefror 2010), cyhoeddodd Cyngor Offa eu bod yn cyfrannu cyfanswm o £9,000 i goffrau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, a gynhelir o 30 Gorffennaf – 6 Awst 2011.
Lleolir y Maes, sydd ar dir Fferm Bers Isaf, yn nalgylch Cyngor Cymuned Offa, ac mae’r Cyngor yn awyddus i gefnogi ymweliad un o wyliau celfyddydol mawr y byd ag ardal Wrecsam – ac ardal Offa’n benodol.
Meddai Aled Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Wrecsam a’r Fro:
“Mae haelioni Cyngor Cymuned Offa yn hwb mawr i gronfa leol yr Eisteddfod, ac mae’n amlwg bod y Cyngor yn gweld budd yr Eisteddfod yn ymweld â’r ardal. Mae’r ymateb i ddyfodiad yr Eisteddfod wedi bod yn arbennig yn ardal Wrecsam, ac mae’r gronfa leol eisoes yn dechrau llenwi. Gobeithio y bydd y brwdfrydedd yma’n parhau ac y cawn Ŵyl i’w chofio yn 2011.
“Mae cyhoeddiad Cyngor Cymuned Offa i’w groesawu, gan ei fod yn dangos yn glir i bobl yr ardal – ac i’r cynghorau eraill yn lleol – pa mor bwysig yw cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n bwysig sylweddoli bod yr Eisteddfod yn dod â budd sylweddol i ardal, rhwng £6-8 miliwn yn ôl ymchwil annibynnol, felly mae’r buddsoddiad hwn gan y cynghorau’n mynd i dalu ar ei ganfed ymhen blwyddyn a hanner wrth ni groesawu tua 160,000 o ymwelwyr i ardal Wrecsam.”
3 Gorffennaf yw’r dyddiad pwysig nesaf yng nghalendr Eisteddfod Wrecsam a’r Fro, pan fydd Seremoni’r Cyhoeddi’n digwydd yng nghanol y dref. Bydd y seremoni’n dilyn gorymdaith gan Orsedd y Beirdd a grwpiau a sefydliadau lleol drwy’r dref, gan orffen yn Llwyn Isaf ger Neuadd y Dref.
Dyma fydd ymddangosiad swyddogol cyntaf Archdderwydd newydd Cymru, Jim Parc Nest, wrth iddo arwain y seremoni. Dyma hefyd fydd ymddangosiad swyddogol cyntaf Cofiadur yr Orsedd, Penri Tanad, yn dilyn ei benodiad ddiwedd Ionawr eleni.
Mae gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Ŵyl am bris tocyn maes dyddiol.
Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a chan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, ewch i www.eisteddfod.org.uk neu gallwch fynd i dudalen yr Eisteddfod ar facebook – www.facebook.com/eisteddfod - a dilyn y ddolen i Eisteddfod 2011.
Cynhelir Eisteddfod 2010 ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd o 31 Gorffennaf – 7 Awst eleni.