Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
18 Mehefin 2012
Llyfrgellydd yn Wrecsam yn cyhoeddi stori ferMae Emily Birch, cynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Wrecsam, newydd gyhoeddi ei stori gyntaf i blant mewn casgliad o straeon am anifeiliaid ac adar.
Cyhoeddwyd y casgliad newydd, Animal Stew, fel rhan o Wyl Lyfrau Plant ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion a chaiff ei lansio yn yr wyl ar Fehefin 30ain. Mae’r Bardd Llawryfog, Yr Athro Carol Ann Duffy CBE OBE, Cyfarwyddwr Creadigol Ysgol Ysgrifennu Manceinion, yn disgrifio’r casgliad fel “straeon i ddifyrru a diddanu gan lenorion newydd dawnus.”
Mae stori Emily, o’r enw ‘A Precious Pearl’, yn seiliedig ar un o’i hieir hi sy’n mynd ar daith i’w darganfod ei hun.
Mae Emily, sydd ag MA mewn Ysgrifennu Creadigol, yn Arweinydd Grwp Ysgrifennu Creadigol i Blant yn Llyfrgell Wrecsam ac mae’n rhoi ei sgiliau ysgrifennu ar waith gyda’r plant, gan gynnwys straeon byrion, barddoniaeth, comics a llyfrau sbonc. Yn ystod gwyliau’r haf, bydd yn arwain sesiynau ysgrifennu creadigol i blant yn Llyfrgell Wrecsam.
Meddai Emily, “Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi fy stori gyntaf – mae’n gyffrous iawn, ond rwyf eisoes yn gweithio ar nofel hir!”