Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

14 Rhagfyr 2011

Partneriaeth yn manteisio ar gyfle a Chartrefi Gwag

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â chymdeithas tai lleol i roi cynllun arloesol ar waith a helpu perchnogion tai gwag yn y Sir i’w hailddefnyddio.

Fel rhan o Strategaeth Tai Gwag yr Awdurdod Lleol mae Cyngor Wrecsam wedi nodi tai gwag yn y Sir sydd â photensial i gael eu rhentu i bobl leol.

Mae’r Cyngor wedi ymuno â Chymdeithas Tai Alyn, aelod o’r Grŵp Tai Pennaf, sydd wedi cynnig i gynorthwyo â’r gwaith adnewyddu i hyd at £5,000 a Chynllun Llesddaliad a Rheoli.

Byddai perchennog yr eiddo yn cytuno i gytundeb prydlesu â chymdeithas Clwyd Alyn, gan ganiatáu iddo adennill costau’r gwaith adnewyddu. Bydd y tai’n cael eu rhentu gan Offa sy’n rhan wahanol o Grŵp Tai Pennaf ac sy’n arbenigo mewn rheoli a phrydlesu eiddo yn y sector preifat.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Thai:

“Fel Awdurdod lleol rydym yn ymwybodol o’r effaith all eiddo tai ei gael ar gymunedau lleol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, colli tŷ sydd wir ei angen, a hefyd rydym yn ymwybodol o ba mor anodd yw hi i berchnogion tai gwag eu rhoi ar ddefnydd unwaith eto.

“Gwerthfawrogwn hefyd yr effaith ar y cymdogion sy’n byw drws nesaf i eiddo gwag yn cwbl ddi-fai. Rydym felly’n awyddus i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallwn gyda’n cymdeithasau partner drwy ddarparu cefnogaeth ymarferol a chyngor.”

Yn ystod y cyfnod prydlesu dechreuol, byddai’r eiddo’n cael ei rentu’n is na gwerth y farchnad. Ar ôl tynnu cost yr adnewyddu, costau rheoli a gosod, bydd incwm y rhent yn rhoi incwm rheolaidd i berchennog y tŷ.

“Gall ystyried prydlesu fod yn eithaf digalon i bobl sy’n berchen ar eiddo gwag, yn arbennig os ydynt yn wynebu costau adnewyddu i fodloni’r gofynion statudol angenrheidiol,’ meddai Mr Deiniol Evans, Cyfarwyddwr Datblygu a Gwasanaethau Technegol Grŵp Tai Pennaf.

“Mae’r fenter newydd hon yn rhoi cyfle ardderchog iawn i berchnogion eiddo gael help proffesiynol ar yr un pryd â throi eiddo gwag yn incwm rheolaidd.”

Mae Cyngor Wrecsam wedi nodi mwy na 150 eiddo ledled y Sir sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac wedi gosod targed i 35 eiddo gael eu defnyddio unwaith eto erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

Os ydych yn berchennog tŷ gwag ac yn dymuno gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Grŵp Tai Pennaf, neu’n dymuno rhoi gwybod am eiddo gwag yn y Sir cysylltwch â Siôn Wynne, Swyddog Partneriaeth Tai ar 01978 315 587 neu sion.wynne@wrexham.gov.uk ; neu Carla Hewitt, Swyddog Marchnata a Llesddaliad yn Offa ar 0845 111 0309 neu carla.hewitt@offaltd.co.uk

yn ôl i'r brig