Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

20 Mehefin 2009

Datganiad i’r Wasg Cyngor Cymuned Esclusham

Mae cefnogaeth i ymgais Wrecsam Cymru yn ei Blodau yn prysur gynyddu ledled ward Cyngor Cymuned Esclusham. Mae nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau cymunedol wedi eu cynllunio i sicrhau bod ymgais eleni yn wirioneddol ymdrech ar y cyd. Drwy ddod â gwahanol grwpiau oed a sefydliadau gyda’i gilydd gobeithir llwyddo i gyflawni manteision hirdymor i’r gymuned yn ei chyfanrwydd.

Yn ogystal â chynlluniau plannu yn y Gerddi Goffa a phwyntiau penodol ar Ffordd Wrecsam, mae Cyngor Wrecsam wedi darparu planwyr mawr i’r gymuned. Defnyddir y rhain i lunio arddangosfeydd blodau lliwgar ar hyd y llwybr beirniadu. Wedi eu lleoli mewn pwyntiau penodol, bydd pob un wedi ei baratoi gan aelodau o Glwb Ieuenctid Esclusham gyda chymorth staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig. Dywed, John Droog o’r cyngor cymuned wrth sôn am gefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, “Mae cynnwys aelodau iau cymuned Rhostyllen a’r ardaloedd cyfagos yn rhan allweddol o ymgais Cymru yn Ei Blodau Wrecsam. Heb gymorth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol byddai wedi bod yn hynod anodd i ni lunio a gofalu am y planwyr, heb son am eu symud i’w safle”.

Mae dyddiau gwaith amgylcheddol i’w defnyddio i gasglu sbwriel a chael gwared ar unrhyw lanastr yn yr ardal. Mae’r syniad wedi ei drefnu gan dîm arolygu’r gymdogaeth a thrigolion lleol a’r diben yw glanhau ochrau’r ffyrdd a’r strydoedd drwy Pentre Bychan, Legacy, Aberoer a Rhostyllen. Ar 3ydd a 4ydd Gorffennaf bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar Rostyllen ac ar 11eg Gorffennaf bydd ym Mhentre Bychan, Aberoer a Legacy. Unwaith eto yr amcan yw cael cymaint o bobl ifanc yn gysylltiedig â phosibl. Mae PCSO Ben Madeley wedi sicrhau grant o £500 tuag at farbiciw neu hwylddydd i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y digwyddiadau.

Ar 3ydd Mehefin Ysgol Rhostyllen fydd lleoliad noson caws a gwin. Yn ogystal â bod yn gyfle i bobl gefnogi’r ysgol, bydd Andrea Evans o Marvellous Gardens yn rhoi arddangosiadau llunio basgedi crog a fydd ar gael i’w prynu yn dilyn y digwyddiad.

Yn rhan o’r broses feirniadu, bydd y llwybr drwy Esclusham yn cynnwys ymweliad byr â gerddi Bramley House, Legacy. Lluniwyd dros gyfnod o 10 mlynedd, bydd y gerddi hefyd ar agor i’r cyhoedd ar 2il Awst fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol a bydd yr holl elw yn mynd at Nyrsys Macmillan a Hosbis Ty Gobaith.

Mae trigolion Llywneinion wedi ymgeisio yng nghategori cymdogaeth Cymru yn ei Blodau. Amcan y pwyllgor o bobl leol yw defnyddio’r ymgais i helpu’r ysbryd cymunedol ymhellach. Mae cefnogaeth grant o £250 oddi wrth Gyngor Cymuned Esclusham i’w ddefnyddio i brynu planhigion. Ynghyd â hyn mae CJ Timber o Ruthun wedi cyfrannu arwydd wedi ei wneud â llaw i groesawu ymwelwyr Lywneinion, mainc bren ac ystod o blanwyr o bren wedi ei ailgylchu. O ganlyniad i’r ymgais Cymru yn ei Blodau gobeithir y bydd digwyddiadau pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn, boed yn dod i adnabod eich cymydog neu’n ddigwyddiadau codi arian.

yn ôl i'r brig