Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
19 Rhagfyr 2011
Mae dydd Gwener 23 Rhagfyr yn argoeli i fod yn ddiwrnod llawn cyffro yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt.
Mae’r diwrnod yn dechrau gyda sioe Nadolig gan y cwmni theatr lleol Aargol sy’n cyfuno cerddoriaeth, adrodd straeon, hiwmor slapstic, pypedau, gwisgoedd a mygydau er mwyn rhoi perfformiadau cofiadwy i bob oed.
Mae Canolfan Adnoddau Gwersyllt wedi ymuno â Chlinig Pen y Maes i gynnal cynhyrchiad am ddim i deuluoedd lleol rhwng 1.30 a 2.30pm.
Yn dilyn perfformiad Aargol mae staff Gwersyllt yn gwahodd cyfeillion a thrigolion lleol i ddathlu diwedd blwyddyn lwyddiannus gyda choffi a mins peis rhwng 3.00 a 5.00pm. Gwrandewch ar garolau gan seindorf Gwersyllt ei hun, PCSO lleol a chwaraewr ffliwt Phil Jones, chwaraewyr harmonica John Jones a straeon Nadolig yn y llyfrgell.
Dywedodd Sandra Gardener, Rheolwr Canolfan Adnoddau Gwersyllt:
“Perfformiodd Aargol y llynedd ac roedd y plant a’r oedolion wrth eu boddau; mae wirioneddol yn gynhyrchiad Nadolig i bob oed. Hoffwn ddiolch i Glinig Pen y Maes Clinic sydd wedi cyfrannu arian raffl i wneud y perfformiad yn bosibl.”
Bydd perfformiad Aargol yn dechrau am 1.30pm gyda choffi a mins peis am 3.00pm. Am ragor o wybodaeth ffoniwch Ganolfan Adnoddau Gwersyllt ar 01978 722880 neu e-bost gwersylltresource@wrexham.gov.uk