Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

27 Mehefin 2012

Dilyn y Fflam

Mae’r Fflam Olympaidd wedi bod ac wedi mynd, ond bellach mae gennym rywbeth arall i edrych ymlaen ato... Arddangosfa Dilyn y Fflam. Bydd yr arddangosfa’n dod i Amgueddfa Wrecsam ar 27ain Mehefin hyd 15fed Medi.

Mae’r arddangosfa i Gymru gyfan o dan arweiniad Wrecsam yn defnyddio’r cyfnod cyn y Gemau Olympaidd i archwilio a dathlu hanes rhyfeddol dynion a merched o Gymru, na wyddom lawer amdanynt yn aml, a fu yn y Gemau.

Daw taith yr arddangosfa o leoliadau amlwg ledled Cymru i ben yn Amgueddfa Wrecsam.

Mae’r arddangosfa’n mynd a’r ymwelydd ar daith hynod o darddiad y Gemau Olympaidd yng Ngwlad Groeg (776BC), drwy eu dirywiad bron i ddeuddeg cant o flynyddoedd yn ddiweddarach, hyd at rôl bwysig Prydain yn eu hail sefydlu yn Athens ym 1896, cynnwys y Gemau Paralympaidd, a sawl pennod arwyddocaol (o ddewrder a thrasiedi) yn eu hanes ers hynny.

Dywedodd Phil Cope, Cydlynydd Dilyn y Fflam ‘Mae hwn yn gyfle gwych i bobl Wrecsam barhau ag ysbryd y Gemau Olympaidd yn dilyn Taith Gyfnewid y Fflam. Cynhelir yr arddangosfa yn Wrecsam i gyd-fynd a’r Gemau Olympaidd yn Llundain, a bydd yn gyfle gwych i bobl weld tlysau chwaraeon Cymru a dysgu am hanes y gemau Olympaidd, a’r cyfan ar garreg eu drws.

Bydd yr arddangosfa fawr yn cynnwys:

  • Ffilm newydd gyda cherddoriaeth wedi ei chyfansoddi’n arbennig (gan y cyfansoddwr o Gymru, Andrew Griffiths)
  • Casgliad helaeth o dlysau chwaraeon yn ymwneud a phersonoliaethau’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yng Nghymru, gan gynnwys ffaglau a medalau Olympaidd go iawn.
  • Casgliad diddorol o ffotograffau (rhai heb eu gweld o’r blaen) o Olympwyr a Pharalympwyr Cymru,
  • Darluniau newydd o athletwyr Cymru gan yr artistiaid o Gymru, Lorraine Bewsley a Samuel James Hunt
  • Pytiau o’r 100+ o gyfweliadau y mae Prosiect Dilyn y Fflam wedi eu cynnal gydag athletwyr o Gymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn ogystal â hyn, rhaglen addysgol i ysbrydoli pobl o bob oed, fydd ar gael i ysgolion, sefydliadau ac unigolion.

Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa, cysylltwch â:

Archifdy ac Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Rhaglaw
Wrecsam LL11 1RB

Ffôn: 01978 297 460

E-bost: museum@wrexham.gov.uk

www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/flame/index.htm

Mae Dilyn y Fflam wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r UK Legacy Trust, er mwyn creu effaith barhaol i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, drwy ariannu syniadau a thalentau lleol i ysgogi creadigrwydd ledled y DU.

yn ôl i'r brig