Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
10 Chwefror 2012
Fe hoffai’r Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Wrecsam wybod beth yw’ch barn am y ddogfen newydd o’r enw ‘Strategaeth Ymgysylltu 2011/2014’ sydd wedi cael ei hysgrifennu er mwyn sicrhau y cewch chi gyfle i ddweud eich dweud.
Mae’r adran yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i’w dinasyddion ac mae’n bwysig bod y cyhoedd a’r bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn cael modd i ddweud eu dweud a sôn am eu profiadau hwy, yn ogystal â chymryd rhan mewn gwella’r gwasanaethau y maent yn eu cael.
Cafodd ei hysgrifennu ar gyfer pobl sy’n defnyddio neu a allai ddefnyddio yn y dyfodol, y gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu gan yr Adran. Fe’i hysgrifennwyd hefyd ar gyfer teuluoedd (gofalyddion) pobl o'r fath, a phobl a sefydliadau sy’n cynllunio a darparu gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Amcan y strategaeth yw gwella’r modd y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn Wrecsam yn meithrin perthynas ag unigolion, cymunedau a grwpiau ym mhob agwedd ar ddatblygu, llunio a chynnal gwasanaeth gwell.
Y Cynghorydd Joan Lowe yw’r Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd ac meddai: “Mae’n bwysig dros ben inni feithrin perthynas â’r gymuned er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o'r safon uchaf sy’n cael eu cynnal yn effeithiol. Fe hoffwn annog cymaint o bobl ag y bo modd i lenwi’r arolwg aer mwyn inni gael gwybod yn iawn pa feysydd y mae’n rhaid inni eu gwella.’
Mae’r ddolen at yr arolwg a’r strategaeth ei hun i’w chael ar wefan Cyngor Wrecsam yn www.wrexham.gov.uk. Bydd yr arolwg ar gael tan Fawrth 2il 2012. Os nad yw’r rhyngrwyd ar gael ichi, byddwch cystal â ffonio’r tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar 01978 298616 er mwyn gofyn am fersiwn papur o’r arolwg.