Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

13 Rhagfyr 2011

Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2012-13

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi derbyn manylion ei setliad gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 7 Rhagfyr. Darperir £184m ar gyfer Wrecsam sy’n gynnydd o 1.2% ar y llynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Jenkins, Aelod Arweiniol dros Gyllid a Rheoli Asedau:
“Prin yw’r newid rhwng y Setliad Dros Dro a’r cyhoeddiad terfynol o ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

“Mae’r Cyngor wedi bod yn cynllunio ar gyfer y setliad llym hwn am gryn amser ac mae’n hyderus y gall wneud yr arbedion angenrheidiol i faintioli’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf heb effeithio ar wasanaethau rheng flaen. Bydd ysgolion a gofal cymdeithasol yn elwa o’r cynnydd yn y dyraniad yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru.”

yn ôl i'r brig