Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
27 Gorffennaf 2012
Mae pump o barciau gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ty Mawr, Dyfroedd Alun, Melin y Nant, Parc Bellevue a Pharc y Ponciau, wedi cadw eu Gwobrau Baner Werdd clodfawr.
Meddai’r Cynghorydd Bob Dutton, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd:
“Mae hyn yn newyddion rhagorol ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb waith caled y staff a Grwpiau prysur iawn Cyfeillion y Parciau. Llongyfarchiadau iddynt i gyd. Yn Wrecsam rydym yn hynod o ffodus bod gennym barciau gwledig mor brydferth y gall y mwyafrif o gymunedau eu cyrraedd o fewn munudau yn y car a byddwn yn annog pawb yn ystod y misoedd nesaf i edrych drostynt eu hunain beth sydd ar gael iddynt ei fwynhau yn hollol rhad ac am ddim.”
Mae Baneri Gwyrdd yn wobrau safon sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac sy’n cael eu dyfarnu i’r mannau gwyrdd gorau yn y wlad. Derbyniodd Wrecsam ei Wobr Baner Werdd gyntaf yn 2005 pan gyrhaeddodd Ty Mawr a Pharc Bellevue y safon gofynnol. Dilynwyd hyn y flwyddyn wedyn pan ymunodd Dyfroedd Alun â’r parciau buddugol, ac yn dilyn yn fuan wedyn oedd Melin y Nant. Derbyniodd Parc y Ponciau ei Faner yn 2010 yn dilyn ei adnewyddiad