Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

20 Mehefin 2012

Mae Hanes Byw eich Angen!

Unwaith eto bydd Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam yn cynnal y digwyddiad Hanes Byw! bydd yn cynnwys Rali Beiriannau Hen a Thras y Bers yng Ngwaith Haearn y Bers. Eleni cynhelir y rali ar 5 Awst.

Mae’r Gwasanaeth Treftadaeth yn chwilio am geir tras a hen geir, beiciau modur a lorïau i gael eu dangos yn yr ŵyl.

Mae rali’r Bers yn ddigwyddiad cyfeillgar a gynhelir mewn safle prydferth yn Nyffryn Clywedog, sydd ddwy filltir o Wrecsam. Ochr yn ochr â’r hen beiriannau bydd arddangosfeydd gan grwpiau treftadaeth cymunedol lleol, diddanwyr a grŵp ailberfformio’r 23ain Catrawd Troed (Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru), ynghyd â rhai gwobrau arbennig i nodi’r Olympiad. Gyda hyn oll, gobeithiwn y daw â’r holl arddangoswyr â hanes yn fyw i bob cenhedlaeth.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â thîm gweinyddu Hanes Byw! ar 01978 318 970 neu anfonwch e-bost at bershamheritage@wrexham.gov.uk a gofyn am ffurflen gofrestru. Bydd pob arddangoswr yn derbyn plac coffa.

yn ôl i'r brig