skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


30 Medi 2008

Jessica’n Cael ei Gwobr

Jessica Wright, sy’n 22 mlwydd oed yw’r ail i dderbyn gwobr chwarterol Pass Plus Cymru. Cafodd enw Jessica ei dynnu oddi ar restr pob un o’r ymgeiswyr a ddychwelodd ei ffurflen werthuso ar ôl cwblhau’r cwrs. Ei huwch hyfforddwr Pass Plus Cymru oedd Mr Ron Ingall o Ron Ingall School of Motoring a leolir yn yr Eglwys Wen. Dywedodd Prif Weithredwr GEM Motoring Assist’s, David Williams ‘Rydym yn falch iawn o gael noddi gwobrau’r fenter Gymreig gyffrous hon. Rydw i’n sicr y bydd Pass Plus Cymru yn helpu i wneud gyrwyr Cymreig yfory yn llawer mwy diogel, ymwybodol, ac ystyriol.

Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Jessica, “Mi fwynheais yr hyfforddiant ychwanegol a roddodd Pass Plus Cymru i mi, ac fel gyrrwr newydd mi gefais lawer o gyngor a dysgais lawer o bethau defnyddiol. Rydw i’n argymell y cwrs i bawb sydd newydd basio’u prawf.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae Pass Plus Cymru yn fenter dda i helpu gyrwyr ifanc i ddysgu mwy o sgiliau gyrru a datblygu i fod yn yrwyr mwy diogel.”

Datblygwyd Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr amhrofiadol rhwng 17 a 25 i gynnig mwy na’r cynllun Pass Plus sylfaenol. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Wrecsam yn gallu cynnig y cwrs hyfforddi i yrwyr newydd. Cyfanswm cost y cwrs yw £20 yn unig, gostyngiad sylweddol ar y gost arferol sydd rhwng £120 a £150. Cynhelir y cyrsiau hyfforddi ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam drwy’r flwyddyn.

Gellir cael manylion pellach am y cwrs ar y wefan ganlynol

www.dragondriver.com

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint