Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
29 Medi 2008
Maes Parcio’r Llyfrgell Ynghau 16.10.08
Bydd Ymwelydd Brenhinol yng Ngholeg Iâl ar 16 Hydref pan fydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Edward yn dod i ddathliad Gwobrau Dug Caeredin.
I gefnogi’r digwyddiad bydd Maes Parcio Llyfrgell Wrecsam ynghau i’r cyhoedd y diwrnod hwnnw. Codwyd hysbysfyrddau yn y maes parcio i roi rhybudd ymlaen llaw i ddefnyddwyr cyson am y cau.
Mae lleoedd parcio ceir eraill ar gael yn y Byd Dwr a meysydd parcio aml-lawr Marchnad y Bobl. Cynghorir deiliaid Bathodyn Glas y bydd lleoedd parcio ar gael yn Neuadd y Dref y diwrnod hwnnw.
Dywedodd Martin Wright, Prif Swyddog Cludiant a Rheoli Asedau:
"Gwyddom y bydd hyn yn anghyfleus i rai defnyddwyr y maes parcio ac rydym yn rhoi gymaint â phosibl o rybudd er mwyn iddynt wneud trefniadau amgen. Rydym yn cefnogi’r digwyddiad lle gwelir llawer o bobl ifanc y fwrdeistref sirol yn arddangos y sgiliau a ddysgwyd dan Gynllun Dug Caeredin i’r Tywysog."
|