Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

04 Mawrth 2010

Gwasanaeth Gostyngol nes bydd y Llyfrgell yn Ailagor

Bydd llyfrgell Wrecsam yn ailagor ei drysau i’r cyhoedd ar 22ain Mawrth yn dilyn ailwampio.

Tan yr agoriad mawreddog hwn, bydd Llyfrgell Wrecsam ar gau tra bydd yr holl lyfrau, DVD, CD, dodrefn a chyfrifiaduron yn cael eu pacio ac yn cael eu symud i’r llyfrgell newydd ei hailwampio ar Ffordd Rhosddu. Gall defnyddwyr y llyfrgell ddal i ddychwelyd neu adnewyddu eitemau i’w chartref presennol yn hen adeilad Kwik Save ond ni fyddant yn gallu cymryd unrhyw beth arall allan tan yr ailagor.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae Llyfrgell Wrecsam wedi cael adnewyddiad trawiadol. Nid yn unig mae gwasanaethau newydd a llawer gwell, mae’r lle ei hun erbyn hyn yn oleuach, ysgafnach a mwy croesawgar.

Pan fyddwch yn ymweld â’r llyfrgell fe welwch estyniad i’r llawr cyntaf; gwell mynediad i’r anabl; wi-fi; gwell stociau llyfrau a DVD; cyfrifiaduron newydd a desgiau hunanweini newydd sbon.

Ar ben y gwelliannau cyffrous hyn, mae Llyfrgell Wrecsam hefyd wedi dod yn lleoliad diweddaraf BFI Mediatheque – yr unig safle yng Nghymru! ‘Jiwcbocs digidol’ yw BFI Mediatheque o ffilmiau a rhaglenni teledu o Archif Genedlaethol y BFI – y casgliad mwyaf sylweddol yn y byd o ddelweddau symudol. Bydd y BFI Mediatheque yn Wrecsam hefyd yn rhoi lle amlwg i gasgliad arbennig o ffilmiau a deunydd teledu o ddiddordeb arbennig i wylwyr Cymreig gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol 1916 yn Aberystwyth, a’r cofnod cynharaf o gêm bêl-droed ryngwladol pan oedd Cymru’n chwarae yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras yn 1906.

Cafodd yr ailwampio hwn gefnogaeth grant o £310,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

yn ôl i'r brig