Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
04 Medi 2008
    Dychwelyd i Ysgol Newydd Sbon
Bydd disgyblion yn y Rhos yn dychwelyd i ddosbarth mewn ysgol newydd sbon yr wythnos hon (dydd Mercher) a bydd Ysgol Maes Y Mynydd yn agor ei drysau am y tro cyntaf un.
Bydd yr ysgol newydd sydd â 360 o leoedd yn agor yn dilyn gwaith adnewyddu o £2.9 miliwn a oedd yn cynnwys uno tair ysgol sef Ysgol Y Rhos, Ysgol Y Wern ac Ysgol Ponciau.
Bydd cwblhau Maes Y Mynydd yn ddiwedd prosiect gwerth £6.9 miliwn i aildrefnu ac ailddatblygu ysgolion yn ardal Rhos.
Agorwyd ysgol cyfrwng Cymraeg newydd Ysgol ID Hooson ar gyn waith brics y Pant yn y pentref mis Medi diwethaf.
Adeiladwyd Maes Y Mynydd i’r un safonau uchaf ac mae’n cynnig y cyfleusterau gorau gyda’r un thema ecogyfeillgar sef pwmp sy’n tynnu gwres o’r ddaear i ddarparu gwres a dwr poeth yn ogystal â phaneli solar ar y to.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aled Roberts: “Rydw i’n falch iawn bod y prosiect hwn wedi ei gwblhau o fewn y gyllideb a’r terfyn amser. Mae’r Cyngor wedi newid y ffordd mae’n rheoli’r prosiectau hyn fel y gallwn weithio o fewn y cyllidebau tynn a dderbyniwn a darparu gwerth am arian a chyfleusterau o’r radd flaenaf.”
Ychwanegodd: “Mae’n gyfnod pwysig arall yn ein hymgyrch i wella safonau addysgol i blant sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’n bwysig iawn i’r Rhos bod ein plant yn cael addysg mewn cyfleusterau rhagorol.”
Bydd Jan Rowlands, cyn Bennaeth Ysgol Y Rhos, yn cymryd yr awenau yn yr ysgol newydd a bydd yno i gyfarch y plant ar eu diwrnod cyntaf ddydd Mercher nesaf.
Dywedodd: “Rydw i’n falch iawn o’r ysgol newydd. Mae’r cyfleusterau’n ffantastig a gallwn yn awr edrych ymlaen at ddysgu ac addysgu mewn amgylchedd a fydd yn helpu ein disgyblion i wireddu eu potensial yn llawn.”
|