Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

13 Ionawr 2012

Cyngor Wrecsam a Masnachwyr Marchnad – Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mae masnachwyr marchnad yn Wrecsam wedi cael hwb yn y Flwyddyn Newydd gan yr awdurdod lleol. Bydd yr holl denantiaid stondinau marchnad mewnol yn cael gostyngiad o 25% yn eu rhent i’w helpu yn ystod tri mis masnachu anoddaf y flwyddyn, sef Ionawr, Chwefror a Mawrth.

Mae amrywiaeth o gymelliannau’n cael eu cynnig i denantiaid newydd yn y tair marchnad dan do a’r 27 o unedau siopau sy’n eiddo i’r Cyngor yng nghanol tref Wrecsam hefyd.

Mae Cyngor Wrecsam wedi cyflwyno amrywiaeth o gymelliannau i gynorthwyo i gynyddu’r busnes yng nghanol y dref yn ystod y misoedd diwethaf.

Y llynedd cyflwynodd y Cyngor barcio am ddim ar ôl hanner dydd mewn dau o’i feysydd parcio er mwyn cynorthwyo busnesau yng nghanol y dref a siopwyr.

Eleni mae’r Cyngor yn parhau i edrych ar ffyrdd o helpu busnesau Wrecsam, a’i denantiaid adwerthu ei hun yn benodol.

Dywedodd y Cynghorydd Rodney Skelland, Aelod Arweiniol dros Adfywio a Llywodraethu Corfforaethol:

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i helpu busnes lle bynnag y bo modd. Nid oes grantiau ar gael i’r sector adwerthu, felly mae medru lleihau’r rhent yn y tymor byr tra rydyn ni’n parhau i drafod y ffordd orau o symud ymlaen yn sicrhau y bydd y camau nesaf yn rhai y mae’r masnachwyr yn dymuno i ni eu cyflwyno.”

Meddai Barry Williams, o Beauty Box ym Marchnad y Bobl:

“Rydyn ni’n falch iawn fod y Cyngor wedi gwrando ar bryderon y masnachwyr ac wedi gweithredu ar unwaith i gynorthwyo. Mae hyn wedi gwneud argraff fawr, oherwydd weithiau mae’n ymddangos bod olwynion democratiaeth yn troi’n araf iawn.”

Mae’r newyddion yn hwb arall i fusnesau ynghanol y dref. Cynhaliodd Skillsmart, yr Academi Sgiliau Adwerthu Cenedlaethol, arolwg siopwyr dirgel yng nghanol y dref yn 2011 ac ym mis Hydref cyhoeddwyd bod siopau Wrecsam yn bedwerydd o’r 87 tref a arolygwyd ym Mhrydain Fawr o ran lefelau gwasanaeth cwsmer rhagorol. Llwyddodd dau o’r masnachwyr marchnad dan do i gael sgôr 100%, gyda phob un a gynhwyswyd yn yr arolwg wedi cael dros 90%.

Er gwaethaf hyn roedd 2011 yn flwyddyn anodd arall i adwerthwyr a chanol trefi ledled y Deyrnas Unedig. Dywedodd Mary Portas yn ei hadroddiad ar y Stryd Fawr yn y Deyrnas Unedig bod marchnadoedd a’r sector annibynnol yn bwysig wrth greu canol tref sy’n wahanol ac yn atyniadol i siopwyr.

Roedd Cyngor Wrecsam eisoes wedi ymdrin â rhai o’r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad, megis cyflwyno parcio am ddim, ac mae’n gweithio gyda’r Fforwm Canol Tref a masnachwyr y farchnad yn awr i gynllunio ar gyfer y tair blynedd nesaf. Bydd y gostyngiad rhent yn helpu’r masnachwyr yn ystod y cyfnod cynllunio cyn i’r rhaglen waith a rhagor o fuddsoddi gael eu gweithredu.

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ron Davies, y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David Bithell a’r Cynghorydd Skelland, wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y marchnadoedd dan do i drafod y sefyllfa adwerthu bresennol o safbwynt lleol a chenedlaethol.

Ychwanegodd David Picken, o Scrapped 4 Cash ym Marchnad y Cigyddion:

“Mae’r Cyngor yn aml yn cael ei feio am ddigwyddiadau y tu hwnt i’w reolaeth neu am beidio â gwrando, ond bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau ac yn wirioneddol fuddiol, felly ‘Diolch yn fawr iawn’ i’r Cyngor.”

“Mae’r Cyngor yn gwrando ar y masnachwyr o’r diwedd. Mae hyn yn newyddion da i’r marchnadoedd ac rydw i’n falch iawn ynghylch y cynigion ar gyfer y flwyddyn nesaf,” meddai Alun Hughes o Film, Music and Nostalgia ym Marchnad y Bobl.

Mae gan y Cyngor ragor o gynlluniau i gefnogi’r marchnadoedd a’u hadfywio yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae cyllid wedi ei sicrhau ar gyfer peth gwaith uwchraddio, ac mae cynlluniau ar gyfer gwella’r arwyddion, cynyddu’r marchnata a hyrwyddo’r marchnadoedd a’r stondinau ar y we.

yn ôl i'r brig