Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

07 Rhagfyr 2011

Gohirio’r Farchnad Nadolig

Yn anffodus iawn, mae’r trefnwyr wedi gorfod gohirio’r farchnad Nadolig boblogaidd oedd i’w chynnal yfory yng nghanol tref Wrecsam (Tir yr Eglwys a Stryt yr Eglwys) Mae hyn oherwydd gwyntoedd cryfion heddiw a’r disgwyl iddynt fod yn gryfach yfory.

O ganlyniad, ni allwn sicrhau diogelwch y cyhoedd. A fyddech cystal â gadael i deulu a ffrindiau wybod am y penderfyniad hwn. Yn amlwg, mae Cyngor Wrecsam a’r stondinwyr yn hynod siomedig, ond maent am bwysleisio bod y mater y tu hwnt i’w rheolaeth.

yn ôl i'r brig