Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

16 Ionawr 2012

Llefydd AM DDIM ar gael ar gynllun ffordd iach o fyw

Mae llefydd rhad ac am ddim ar gael NAWR yn Wrecsam ar raglen Meddwl, Ymarfer Corff a Maeth o’r enw MEND. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cynnig y cwrs gyda’r bwriad o gynorthwyo pobl i ddod yn fwy heini, yn iachach ac yn hapusach!

Mae’r cynllun byw’n iach hwn eisoes wedi bod o gymorth i lawer o deuluoedd ar draws Cymru i gychwyn ar ffordd o fyw newydd, iachach, a hynny mewn dim ond 10 wythnos a bydd y cwrs newydd hwn yn rhoi’r cyfle i fwy o blant a rhieni elwa.

Gydag un plentyn o bob tri yn drymach na’r ystod pwysau iach ar gyfer eu hoedran a’u taldra, dyma’r adeg ddelfrydol i deuluoedd fanteisio ar y cymorth y mae prosiect MEND yn ei gynnig. Anelir y rhaglen at blant 7-13 mlwydd oed a’u teuluoedd.

Pam oedi rhagor? Os ydych yn meddwl y gallai rhaglen MEND fod o fudd i chi neu os ydych yn gwybod am rywun arall a allai elwa, yna pam na chysylltwch â ni?

- Ffoniwch Gydlynydd MEND ar 01978 292088
- Anfonwch e-bost at mend@wrexham.gov.uk
- Ffoniwch 0800 230 0263 yn rhad ac am ddim

yn ôl i'r brig