Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
25 Ebrill 2012
Lleoedd AM DDIM ar gael yn y cynllun ffordd o fyw iach.Mae lleoedd am ddim ar gael nawr yn Wrecsam ar raglen MEND (Meddwl, Ymarfer Corff a Maethiad). Darperir y cwrs gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i amcan yw helpu pobl ddod yn fwy ffit, fwy iach a hapusach.
Mae’r cynllun byw’n iach eisoes wedi helpu sawl teulu ledled Cymru i ddechrau ffordd o fyw fwy iach mewn 10 wythnos yn unig, ac mae’r cwrs newydd hwn yn rhoi mwy o gyfle i blant a rhieni fanteisio. Gyda mwy nag un o blant mewn tri dros eu pwysau am eu hoed a’u taldra, hwn yw’r amser perffaith i deuluoedd fanteisio ar y gefnogaeth a gynigir gan y prosiect MEND. Mae’r rhaglen wedi ei hanelu at blant 7-13 oed a’u teuluoedd.
Beth arall sydd ei angen arnoch? Os tybiwch y byddech chi, neu os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n cael budd o’r rhaglen MEND beth am gysylltu?
Ffoniwch gydlynydd MEND ar 01978 292088
E-bost mend@wrexham.gov.uk
Rhad ffôn 0800 230 0263