Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

07 Rhagfyr 2011

Twyll ar ffôn – Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae rhywun sy’n byw yn Wrecsam wedi colli mwy na £3000 o bunnoedd trwy dwyll gan rywun yn galw i ddweud ei fod o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a dweud wrtho fod arian yn ddyledus iddo oherwydd bod yswiriant diogelu taliad wedi ei werthu iddo yn anghywir.

Cafodd y preswylydd mewn oed ei dwyllo i wneud cyfres o daliadau tros gyfnod o 3 diwrnod gydag esgusodion amrywiol bob tro i gyfiawnhau bod eisiau mwy o arian. Ymysg y rhesymau roedd yr angen i dalu cyfreithwyr a bod y swm oedd yn ddyledus i’r preswylydd wedi codi’n sylweddol. Yn yr achos hwn, daeth y preswylydd â’r holl beth i ben pan ofynnodd y twyllwyr am £2200 arall.

Mae’r troseddwyr hyn wedi bod yn ffonio defnyddwyr ym mhob rhan o’r wlad, gan ddefnyddio enw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn i bobl eu credu. Mae’r rhai sy’n galw yn honni eu bod o’r Weinyddiaeth ac yn cynnig helpu i adennill taliadau banc neu ennill iawndal ond mae’n rhaid i’r dioddefwyr wneud taliadau er mwyn sicrhau’r arian y maent yn dweud ei fod yn ddyledus iddynt.

Yn yr achos hwn cafodd y taliadau uniongyrchol eu gwneud trwy drosglwyddiad Western Union neu daleb Ukash. Mae’r rhain yn ddulliau poblogaidd gyda thwyllwyr oherwydd bod dilyn trywydd yr arian yn anodd iawn os nad yn amhosibl.

Mae’r twyllwyr yn rhoi’r argraff yn fwriadol eu bod o sefydliadau mawr eu parch er mwyn bwrw pobl oddi ar eu gwyliadwriaeth. Dyma rai o’r sefydliadau sydd wedi eu defnyddio i ennill hyder pobl:

• y Weinyddiaeth Gyfiawnder
• y Swyddfa Masnachu Teg
• Cyllid a Thollau EM
• adrannau eraill y llywodraeth
• cwmnïau rheoli hawliadau awdurdodedig
• banciau’r stryd fawr

Mae Safonau Masnach yn Wrecsam yn rhybuddio pob i fod yn wyliadwrus yn erbyn y math hwn o dwyll. Os cewch chi alwadau amheus fel hyn, peidiwch o dan unrhyw amgylchiadau â gwneud taliadau. Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau, un ai i Gyswllt Defnyddwyr ar 08454 040506 neu’r Heddlu ar 101.

Os ydych chi wedi rhoi manylion eich banc i rywun ar y ffôn fel hyn, cysylltwch â’ch banc cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda, i weld a oes trafodion ariannol heb awdurdod wedi’u gwneud.

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Rydym bob amser yn rhybuddio’r cyhoedd na ddylen nhw byth ddelio efo pobl neu fasnachwyr fedrwch chi mo’u ‘nabod, yn bersonol, dros y ffôn nac ar-lein. Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus yn dilyn y twyllo yma. Arhoswch funud a meddwl yn ofalus cyn gwneud dim byd efo pobl ‘dach chi ddim yn ‘nabod a rhoi arian iddyn nhw - a chofiwch, os ydi o i’w weld yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod felly.

yn ôl i'r brig