Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

09 Rhagfyr 2011

Pleidleisiwch dros eich Hoff Arddangosfa Ffenestr

Mae siopwyr yn Wrecsam yn cael eu hannog i bleidleisio dros eu hoff arddangosfa ffenest - ac os wnânt gallent ennill basged yn llawn o ddanteithion Nadoligaidd.

Mae dros dri deg o fusnesau yn y dref wedi ymuno â’r  gystadleuaeth ffenestri Nadoligaidd eleni.  Trefnir gan Gyngor Wrecsam mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau i helpu hybu busnesau adwerthu yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Dywedodd y Cynghorydd Rodney Skelland, aelod arweiniol dros adfywiad a llywodraethu corfforedig “Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiannus y llynedd ac mae’n ffordd braf o annog mwy o siopwyr i ddod i Wrecsam a rhoi hwb i fusnesau adwerthu lleol.”

“Mae’r siopau sy’n cymryd rhan yn mynd i ysbryd y gystadleuaeth, a gall pleidleiswyr fwynhau edrych ar wahanol arddangosfeydd y ffenestri cyn penderfynu ar eu hoff arddangosfa.”

Mae pleidleisio dros eich hoff arddangosfa ffenest yn hawdd.  Bydd gan bob busnes sy’n cymryd rhan rif ar flaen eu ffenestr.

I bleidleisio gofynnwch i’r siop am bapur pleidleisio neu ewch i’r Ganolfan Groeso Wrecsam yn Stryt y Lampint.

Pan fyddwch wedi ei lenwi, gallwch un ai ei gyflwyno’n bersonol neu ei bostio i’r Ganolfan Groeso erbyn 4pm ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr 2011

Gallwch hefyd bleidleisio drwy anfon y papur pleidleisio ar e-bost i: tourism@wrexham.gov.uk

Bydd pob pleidlais yn mynd i raffl fawr a bydd y buddugol yn ennill basged llawn nwyddau.  Bydd y busnes sydd â’r mwyaf o bleidleisiau yn ennill pryd o fwyd i ddau mewn tŷ bwyta lleol.

Papur pleidleisio

Mae'r rhannau a ddynodir gyda * yn rhai mandadol, y mae'n rhaid eu llenwi.

Fy hoff ffenestr Nadoligaidd yw ...

Charles Street













 

High Street



 

Chester Street




 

Hill Street





 

Lord Street





 

Regent Street




 

Hope Street



 

Queen Street



 

Brook Street





 

Bridge Street



 

Church Street




 

Central Arcade



 

Henblas Street



 

Bank Street



Eich manylion chi






Hidlwr Sbam

Pwyswch y botwm CYFLWYNO isod i anfon eich atebion.

yn ôl i'r brig