Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
17 Medi 2008
 Seren ar y Teledu i Lansio Prosiect Treftadaeth Gymunedol Wledig
Bydd Neil Oliver, yr archeolegydd a’r hanesydd o’r Alban a adnabyddir orau am gyflwyno cyfres “Coast”y BBC fydd yn lansio Prosiect Treftadaeth Gymunedol Wledig Wrecsam y mis nesaf (Hydref).
Neil fydd y siaradwr gwadd yn nigwyddiad lansio’r fenter sef Diwrnod Treftadaeth Gymunedol a gynhelir yng Nghanolfan Fenter Brymbo ddydd Sadwrn 25ain Hydref o 11am ymlaen ac sydd am ddim. Bydd y diwrnod yn cynnwys cloddfa archeolegol, teithiau tywysedig o’r safle treftadaeth leol ac ailberfformiadau canoloesol cyffrous gan y grwp Samhain. Ceir hefyd arddangosfeydd gan grwpiau a chymdeithasau hanes lleol a fydd yn dangos peth o hanes a threftadaeth gyfoethog Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dywed Karen Harris, Swyddog Treftadaeth Gymunedol gyda Gogledd Gororau Cymru sy’n arwain y prosiect: “Gobeithiaf y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle unigryw hwn i fod yn gysylltiedig â’r Prosiect Treftadaeth Gymunedol newydd hwn. Rydym am gefnogi a datblygu syniadau newydd gyda grwpiau a chymunedau ar gyfer amrywiol brosiectau ac arddangosfeydd treftadaeth. Yna gellir cadw’r hanes lleol hwn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau a gall hefyd ddarparu potensial ar gyfer twristiaeth.”
Digwyddiad Brymbo yw un o nifer o ddigwyddiadau sy’n rhan o’r prosiect Treftadaeth Gymunedol Wledig a gynhelir tan Chwefror 2011.
Mae’r Prosiect Treftadaeth Gymunedol Wledig yn un o 28 cynllun sydd wedi sicrhau dros £5m o gyllid fel rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig. Lluniwyd y 28 prosiect gan amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol a chawsant eu cydlynu a’u cynorthwyo yn y broses wneud cais gan Ogledd Gororau Cymru ar ran Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gweithredir y Cynllun Datblygu Gwledig presennol tan Chwefror 2011 ac mae cyfanswm ei werth yn £5.2m, £3.7m yn arian grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a daw’r gweddill o arian cyfatebol neu amser gwirfoddolwyr.
|