Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 10.02.12 | Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion Fe hoffai’r Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Wrecsam wybod beth yw’ch barn am y ddogfen newydd o’r enw ‘Strategaeth Ymgysylltu 2011/2014’ sydd wedi cael ei hysgrifennu er mwyn sicrhau y cewch chi gyfle i ddweud eich dweud. |
| 10.02.12 | Dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn Wrecsam Bydd Gorymdaith flynyddol Dydd Gŵyl Ddewi ar Fawrth 1af a bydd yn cychwyn yn Nôl yr Eryrod am 1.30pm. |
| 10.02.12 | Carreg Filltir Arall i'r Ffordd Fynediad Mae'r gwaith adeiladu ar Gynllun Ffyrdd Mynediad Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam wedi cyrraedd carreg filltir arall yr wythnos hon, pan roddwyd y trawstiau ar bont ffordd fynediad y Chwarel Tarmac newydd ar Ffordd Holt, yn rhan o'r ffordd fynediad ogleddol. |
| 30.01.12 | Ysgol Gwerth £5 Miliwn Wedi Agor yn Swyddogol yn Rhosymedre Mae ysgol gynradd newydd gwerth £5 miliwn Rhosymedre wedi cael ei hagor yn swyddogol gan y Gwir Barchedig John S Davies, Esgob wedi ymddeol Llanelwy. |
| 30.01.12 | Y Fflam Olympaidd - Croeso i Wrecsam! Oes gennych chi unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill er mwyn dathlu a chroesawu’r Fflam Olympaidd pan fydd hi’n ymweld â Wrecsam? Fe hoffai Cyngor Wrecsam wybod a ydych yn bwriadu cynnal unrhyw ddigwyddiadau ar yr un pryd â’r achlysur nodedig hwn. |
| 30.01.12 | Arddangosfa Diwrnod Cofio’r Holocost yn cael ei chynnal ym Marchnad y Bobl Bob blwyddyn ar 27 Ionawr bydd pobl ledled y byd yn coffáu’r holocost, ac mae arddangosfeydd a Diwrnodiau Cofio wedi cael eu cynnal yn y DU ers 2001. Yn wir, mae nifer y digwyddiadau a’r arddangosfeydd yn cynyddu bob blwyddyn. |
| 27.01.12 | Y Bws Coginio yn dod i Hafod Y Wern Bydd disgyblion mewn ysgol yn Wrecsam yn cael awgrymiadau ar sut i baratoi prydau iach pan ddaw’r bws coginio i’r dref. |
| 26.01.12 | Gwahardd Peirannau Gwerthu Sigarennau O ddydd Mercher 1 Chwefror 2012 ymlaen bydd yn anghyfreithlon gwerthu sigarennau o beiriant yng Nghymru. O’r dyddiad hwnnw ni ddylai fod yn bosibl prynu sigarennau o beiriant. Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio’r ddeddf hon mewn ymateb i dystiolaeth bod lawer o blant sy’n ysmygu yn prynu eu sigarennau o beiriannau’n rheolaidd. |
| 26.01.12 | Plant yn Wrecsam yn cael Hawl i Apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru Mae Wrecsam yn un o ddim ond dwy ardal beilot yng Nghymru sy’n profi Mesur Addysg (Cymru) newydd sy’n golygu bod y plant eu hunain yn gallu gwneud eu hapêl addysg arbennig eu hunain a hawlio gwahaniaethu ar sail anabledd. Ar hyn o bryd, dim ond rhieni sy’n cael gwneud hyn. |
| 24.01.12 | Trysorau Canoloesol i gael eu dangos yn Archifdy ac Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam Meddwl Canoloesol (Medieval Minds) yw’r arddangosfa newydd sy’n agor yn Oriel 2, y lleoliad yn Archifdy ac Amgueddfa Wrecsam sydd wedi ei glustnodi i arddangos archifau ac eitemau o Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. |
| 23.01.12 | Y Diweddaraf – Cau Pwll Nofio Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun Yn sgil gosod system gwres canolog ac awyru newydd ac ailwampio’r ystafelloedd newid, mae angen gwaith cynnal a chadw hanfodol pellach ar y pwll yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun. Bydd y pwll yn ailagor i’r cyhoedd bellach yr wythnos yn cychwyn 30ain Ionawr. |
| 20.01.12 | Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon (28 Ionawr – 4 Chwefror 2012) Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn gwahodd plant, rhieni, gwarchodwyr, meithrinfeydd a chylchoedd chwarae i ymweld â’u llyfrgell leol i fod yn rhan o Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon. |
| 19.01.12 | Cynhadledd am ddim i annog cysylltiadau Ewropeaidd Mae Europe Direct Wrexham,mewn partneriaeth a Fforwm ESDGC Gogledd-ddwyrain Cymru yn trefnu cynhadledd i athrawon ysgolion uwchradd o ledled gogledd-ddwyrain Cymru. |
| 16.01.12 | Llefydd AM DDIM ar gael ar gynllun ffordd iach o fyw Mae llefydd rhad ac am ddim ar gael NAWR yn Wrecsam ar raglen Meddwl, Ymarfer Corff a Maeth o’r enw MEND. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cynnig y cwrs gyda’r bwriad o gynorthwyo pobl i ddod yn fwy heini, yn iachach ac yn hapusach! |
| 13.01.12 | Cyngor Wrecsam a Masnachwyr Marchnad – Cynllunio ar gyfer y dyfodol Mae masnachwyr marchnad yn Wrecsam wedi cael hwb yn y Flwyddyn Newydd gan yr awdurdod lleol. Bydd yr holl denantiaid stondinau marchnad mewnol yn cael gostyngiad o 25% yn eu rhent i’w helpu yn ystod tri mis masnachu anoddaf y flwyddyn, sef Ionawr, Chwefror a Mawrth. |
| 12.01.12 | Fflatiau Hightown – Cyngor Wrecsam yn ennill Gwobr Afal Gwyrdd Mae Cyngor Wrecsam wedi cael ei gydnabod am iddo wneud ei orau glas i ostwng allyriadau carbon pan oedd gwaith dymchwel Fflatiau Hightown yn mynd rhagddo. |
| 12.01.12 | Ffordd wedi Cyrraedd Haner Ffordd Mae mwy na hanner y cyfnod adeiladu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Cynllun Ffyrdd Mynediad Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam wedi mynd heibio erbyn hyn. Bydd Aelodau Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn cael cyflwyniad ar ddechrau Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth nesaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynnydd hyd yma. |
| 12.01.12 |
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i weld yr Asesiad o Gymeriad Cadwriaethol Drafft a Chynllun Rheoli ar gyfer ardal Merffordd a hefyd i wneud sylwadau erbyn 6 Chwefror. |
| 06.01.12 | Lansio gwefan ar gyfer tenantiaid y Cyngor Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio ac felly gall tenantiaid y Cyngor nawr wneud cais ar-lein am waith trwsio. Mae Cyngor Wrecsam wedi lansio safle rhyngrwyd diogel newydd er mwyn i denantiaid allu cael gwybodaeth am eu tenantiaeth neu gysylltu â’r Cyngor ynghylch eu cartref. |
| 05.01.12 | Bydd yn rhan o Filltir Cymorth Chwaraeon Wrecsam Bydd Stadiwm Chwaraeon Heol y Frenhines unwaith eto yn cynnal y Filltir Cymorth Chwaraeon ym mis Mawrth. Ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwahodd pawb i gymryd rhan yn y Stadiwm dydd Sul y 25ain o Fawrth. |
| 04.01.12 | Atal ysmygu yng Ngogledd Cymru Heddiw (Dydd Mercher, 4 Ionawr 2012) lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei Bolisi Di-Fwg sy'n anelu at greu amgylchedd di-fwg i bawb sy'n ymweld ag adeiladau a thiroedd y Bwrdd yng Ngogledd Cymru. |
| 03.01.12 | Beth amgael Cipolwg o'r Newudd ar wich Canolfan Hamdden Lleol - Ansawdd,Fforddiadwy, Ffitrydd Pan fydd cwsmeriaid yn ymuno ag unrhyw un o ganolfannau ffitrwydd Pur: DIM ffi ymaelodi (Ionawr 2012,) sesiwn gynefino AM DDIM, Cyngor ynghylch ffitrwydd personol AM DDIM, mynediad DIDERFRYN I bump ystafell ffitrydd, defnydd DIDERFYN o bedwar pwll nofio, presenoldeb DIDERFRYN I gannoedd ddosbarthiadau ffitrwydd. |
| 03.01.12 | Gwobr Bwysig i Glwb Athletig Wrecsam Mae Cyngor Wrecsam a Chlwb Athletig Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill gwobr bwysig yn seremoni wobrwyo Athletau Aviva UK yn Llundain. Cafodd y clwb yr anrhydedd o dderbyn Gwobr Partneriaeth Clwb Athletau'r DU am ei gysylltiad agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. |
| 30.12.11 | Ydych chi am ddweud eich dweud mewn gwleidyddiaeth leol? Mae Cyngor Wrecsam yn cynnal noson agored ar gyfer trigolion sy’n ystyried sefyll yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf. |
| 30.12.11 | Ailgylchwch eich Coeden Nadolig ym Mharc Bellevue Bydd modd Ailgylchu Coed Nadolig unwaith eto ym Mharc Bellevue yng nghanol tref Wrecsam. |
| 22.12.11 | Gwobrwyo Enillydd y Ffenestr Nadolig Orau Mae busnes teuluol sydd wedi bod yng nghanol y dref ers 125 o flynyddoedd wedi ennill Cystadleuaeth y Ffenestr Nadolig Orau, a drefnwyd gan Gyngor Wrecsam. |
| 20.12.11 | Llyfrgell Rhiwabon yn mwynhau hwyl yr Ŵyl Mae staff Llyfrgell Rhiwabon wedi bod yn ymdaflu yn llawen i hwyl yr ŵyl gyda chymorth Ysgolion Cynradd y Santes Fair a Maes-y-Llan. |
| 19.12.11 | Dydd Gwener Nadoligaidd yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt Mae dydd Gwener 23 Rhagfyr yn argoeli i fod yn ddiwrnod llawn cyffro yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt. |
| 19.12.11 | Gorsaf y Waun i gael £1.2 miliwn o gyllid Dyrannwyd £1.2 miliwn i orsaf rheilffordd y Waun tuag at wella’r fynedfa. Cyhoeddwyd y pecyn cyllid gan yr Adran Drafnidiaeth fel rhan o’r cynnydd mewn buddsoddi i wella mynediad i orsafoedd ledled y wlad. |
| 16.12.11 | Y drefn casglu sbwriel yn newid dros y ’Dolig Mae Cyngor Wrecsam yn atgoffa deiliaid tai i fwrw golwg ar eu Calendr Ailgylchu gyda Michael mewn da bryd er mwyn gweld y newidiadau dros gyfnod gŵyl banc y Nadolig. |
| 15.12.11 | Cardiau Rheilffordd rhatach i bobl hŷn y Nadolig yma Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam hyn a hyn o Gardiau Rheilffordd ar gael i Bobl Hŷn, i’w gwerthu am bris disgownt o £24.50, sydd £3.50 yn llai na’r pris manwerthu sy’n cael ei argymell ar hyn o bryd. |
| 15.12.11 | Myfyrwyr sy’n ddawnswyr dawnus Bu un ar bymtheg o fyfyrwyr dawnus Ysgol y Grango, Wrecsam, yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Dawns Stryd y Sefydliad Dawns Unedig Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Blackpool yn ddiweddar. |
| 14.12.11 | Partneriaeth yn manteisio ar gyfle a Chartrefi Gwag Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â chymdeithas tai lleol i roi cynllun arloesol ar waith a helpu perchnogion tai gwag yn y Sir i’w hailddefnyddio. |
| 13.12.11 | Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2012-13 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi derbyn manylion ei setliad gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 7 Rhagfyr. Darperir £184m ar gyfer Wrecsam sy’n gynnydd o 1.2% ar y llynedd. |
| 09.12.11 | Pleidleisiwch dros eich Hoff Arddangosfa Ffenestr Mae siopwyr yn Wrecsam yn cael eu hannog i bleidleisio dros eu hoff arddangosfa ffenest - ac os wnânt gallent ennill basged yn llawn o ddanteithion Nadoligaidd. |
| 09.12.11 |
Bydd Parc Bellevue yn cynnal cyngerdd carolau o lwyfan y band dydd Iau’r 15fed o Ragfyr. Mae’r digwyddiad ymlaen o 5 o’r gloch y pnawn tan 6. |
| 07.12.11 |
Yn anffodus iawn, mae’r trefnwyr wedi gorfod gohirio’r farchnad Nadolig boblogaidd oedd i’w chynnal yfory yng nghanol tref Wrecsam (Tir yr Eglwys a Stryt yr Eglwys) Mae hyn oherwydd gwyntoedd cryfion heddiw a’r disgwyl iddynt fod yn gryfach yfory. O ganlyniad, ni allwn sicrhau diogelwch y cyhoedd. A fyddech cystal â gadael i deulu a ffrindiau wybod am y penderfyniad hwn. Yn amlwg, mae Cyngor Wrecsam a’r stondinwyr yn hynod siomedig, ond maent am bwysleisio bod y mater y tu hwnt i’w rheolaeth. |
| 07.12.11 | Twyll ar ffôn – Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Mae rhywun sy’n byw yn Wrecsam wedi colli mwy na £3000 o bunnoedd trwy dwyll gan rywun yn galw i ddweud ei fod o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a dweud wrtho fod arian yn ddyledus iddo oherwydd bod yswiriant diogelu taliad wedi ei werthu iddo yn anghywir. |
| 06.12.11 | Rhagor o Bobl yn Defnyddio'r Trên yn Wrecsam Mae pum gorsaf yn y Fwrdeistref Sirol, sef Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, Wrecsam Canolog, Gwersyllt, Rhiwabon a'r Waun, ac yn ôl data Swyddfa Rheolydd y Rheilffyrdd cafwyd cynnydd yn y siwrneiau rheilffordd ym mhob un ohonynt - cynnydd o 49% ers 2005. |
| 02.12.11 | Gweithredu Diwydiannol – Casgliadau Biniau Du yn Unig ar ddydd Mercher 7 Rhagfyr Os na chafodd eich bin gwyrdd neu ddu/glas ei wagio oherwydd y gweithredu diwydiannol ar 30.11.11 byddwch cystal â nodi'r canlynol: |
| 02.12.11 | Lansio Ymgyrch Nadolig Wrecsam Ddiogel – Diogela Dy Ddiod – 2011 Gyda gŵyl y Nadolig yn nesáu mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn paratoi i lansio ymgyrch Wrecsam Ddiogel - Diogela Dy Ddiod - 2011. |
| 01.12.11 | Myfyrwyr Coleg Iâl yn Cipio’r Wobr Mae myfyrwyr ar gwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Coleg Iâl unwaith eto wedi cipio gwobr Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Yn Erbyn Yfed a Gyrru gan Ddiogelwch Ffyrdd Cymru gyda’u fideo byr o’r enw Colli Prydferthwch ( A Lost Beauty). |
| 01.12.11 | Cais am aelodau newydd i Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam Mae Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam yn chwilio am aelodau newydd. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn pobl sy’n defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd megis cerddwyr, merlotwyr, beicwyr a gyrwyr cerbydau oddi ar y ffordd, neu bobl sydd â phrofiad o reoli cefn gwlad megis ffermwyr. |