Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
30 Gorffennaf 2012


Mae llyfrgelloedd Wrecsam wedi lansio eu Her Ddarllen yr Haf Blynyddol gydag ymweliad arbennig gan hoff gymeriad y plant Peppa Pig.
Ymunodd Peppa â’r Maer a Maeres Wrecsam er mwyn datgan bod Her Ddarllen yr Haf wedi dechrau’n swyddogol a chafwyd cyfle hefyd i blant gofrestru eu hanturiaethau darllen haf.
Anogir plant sydd rhwng 4 ac 11 i ddarllen chwech neu fwy o lyfrau o’u dewis ac ymweld â’r llyfrgell o leiaf tair gwaith yn ystod gwyliau’r haf wrth gasglu gwobrau ar y ffordd. Bydd pob plentyn sy’n cwblhau’r her yn derbyn medal a thystysgrif a byddant yn cael cyfle i ennill beic newydd sbon.
Lluniwyd yr her ar gyfer pob plentyn, beth bynnag fo’u gallu er mwyn iddynt wirioni ar ddarllen am oes. Gall plant ddarllen unrhyw lyfrau a ddymunant fel rhan o’r her, gan gynnwys llyfrau ffeithiol, straeon, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau - llyfrau sain ac e-lyfrau hefyd!
Dywedodd Dylan Hughes, Swyddog Llyfrgelloedd:
"Nid yn unig yw darllen yn sgil bywyd hanfodol ond mae hefyd yn ffynhonnell o fwynhad da i blant. Mae meithrin cariad at ddarllen yn gynnar yn hanfodol i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a gall ein llyfrgelloedd fod yn rhan ganolog o ran cefnogi hyn.
"Mae’r prosiect hwn yn ffordd ffantastig i gael ein plant i ddarllen ac anogaf bawb i ymweld â’u llyfrgell leol yr haf hwn er mwyn manteisio ar yr hyn sydd ar gael.”
Roedd rhywbeth at ddant yr oedolion hefyd gan i Lyfrgell Wrecsam gynnal te prynhawn a gweithgareddau er budd Hosbis Tŷ’r Eos.
Bu i staff y llyfrgell bobi cacennau o rysetiau sydd ar gael yn llyfrau coginio’r llyfrgell er mwyn codi arian tra bu i’r Siop Goffi drefnu raffl gydag amrywiaeth o wobrau gan gynnwys pryd o fwyd i ddau yn y Siop Goffi.
Yn ystod cyfnod yr haf, mae gan Lyfrgelloedd Wrecsam amrywiaeth o weithgareddau cyffrous gan gynnwys Clwb Ysgrifennu Creadigol, Crefftau’r Haf ac Amser Stori. Galwch heibio i’ch cangen leol i gael copi o Hwyl yr Haf neu ewch i: www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd am fanylion.