Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
09 Medi 2008
Dathliad Agoriad Swyddogol Plas Pentwyn
Tom James, enillydd medal aur Olympaidd Coedpoeth fydd y gwestai arbennig yn yr Hwylddydd Cymunedol ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth, Canolfan Fenter a Dysgu Gydol Oes Coedpoeth, ddydd Sadwrn 13eg Medi i ddathlu ei agoriad swyddogol.
Bydd yr hwyl yn dechrau am 10am a bydd yn cynnwys reidiau ffair i blant, peintio wynebau, sgiliau syrcas, Jolly Jungle, Techniquest, stondinau crefftau a’r cyfle i siarad â darparwyr hyfforddiant cymunedol. Bydd y bardd enwog, Dr Grahame Davies, sy’n dod o Goedpoeth ac yn awdur y llyfr Real Wrexham, yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol. Hefyd bydd yno arddangosfa o’r cynigion a gyflwynwyd gan blant ysgol lleol yn y Gystadleuaeth Logo Plas Pentwyn.
Dywedodd Nicola Millar, Swyddog Datblygu Canolfan Plas Pentwyn, ”Rydym yn falch ac yn freintiedig iawn bod Tom James wedi derbyn ein gwahoddiad i ymuno â ni i ddathlu agoriad swyddogol Plas Pentwyn, yn arbennig ag yntau heb allu dod adref i Goedpoeth hyd yn hyn. Hoffwn annog y gymuned gyfan i ymuno â ni i groesawu Tom adref ac i ddathlu ei lwyddiannau yn ogystal â dod i weld beth sydd gan Blas Pentwyn i’w gynnig.”
Mae calendr hyfforddiant cymunedol Plas Pentwyn yn dechrau ddiwedd mis Medi a bydd cyfle i siarad gyda staff am y cyrsiau sydd ar gael ac i neilltuo lle.
Daeth y cyllid ar gyfer Plas Pentwyn o Raglen Urban II, menter adfywio cymunedol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cymunedau entrepreneuraidd a chyfranogol. Cefnogwyd y Rhaglen hon gan Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Wrecsam, Cronfa Adfywio Lleol Cynulliad Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
|