Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

11 Mehefin 2009

Pen-blwydd 12 mis Plas Pentwyn

Mae Plas Pentwyn, Canolfan Fenter a Dysgu Gydol Oes Coedpoeth wedi bod ar agor am flwyddyn bellach ac mae’n parhau i ddatblygu rhaglenni i’r gymuned leol.

Dywed Rheolwr y Ganolfan Nicola Millar “rydym yn hynod falch gyda pherfformiad Plas Pentwyn yn y deuddeg mis diwethaf a dengys hyn yn yr elw bychan a wnaed yn 2008/09 er y rhagwelwyd colled mewn gwirionedd.”

Bydd elw a wneir gan y ganolfan yn mynd at y ganolfan er mwyn darparu gwasanaethau i’r gymuned a’r cwrs diweddaraf a gynhelir yw’r Clwb Gwaith a gynhelir ar y cyd â Gyrfa Cymru a Phartneriaeth Gorllewin Wrecsam.

Mae’r Clwb Gwaith wedi ei anelu at helpu’r rheiny sy’n ddi-waith, yn wynebu colli gwaith, y rheiny sy’n dychwelyd i’r gwaith neu hyd yn oed y rheiny sy’n dymuno newid gyrfa. Dim ond dau o’r pynciau yw ysgrifennu CV a sgiliau cyfweliadau y mae’r cwrs tair wythnos sydd am ddim yn ei gynnig gan ddechrau ar 10fed Mehefin.

Bydd Plas Pentwyn hefyd yn cynnal ei ffair haf ddydd Sadwrn18fed Gorffennaf rhwng 10am a 2pm. Mae ras falwnau, arwerthiant bwrdd, ffair a pheintio wynebau ymhlith rhai o’r gweithgareddau fydd ar gael.

Am fanylion pellach am y gweithgareddau uchod neu gyfleusterau eraill sydd ar gael ym Mhlas Pentwyn, ffoniwch Nicola Millar ar 01978 722980 neu ewch i’r wefan www.plas-pentwyn.co.uk

yn ôl i'r brig