Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
27 Gorffennaf 2012
Unwaith eto bydd y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei ddathlu yn Wrecsam ddydd Mercher 1 Awst rhwng 12.00 a 4.00 pm ar Sgwâr y Frenhines a Lawnt Llwyn Isaf. Trefnir y digwyddiad gan rwydwaith Chwarae Wrecsam ac mae’n agored i bob oed o fabanod i’r teidiau a’r neiniau sy’n ifanc eu hysbryd.
Ymgyrch eleni yw "Ewch allan a Chware!" ac mae’n galw ar bawb i sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled y DU yn cael yr amser, y rhyddid a’r lle i chwarae yn yr awyr agored. Yn ogystal â hyrwyddo hawl plant i chwarae mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at y ffaith bod chwarae yn yr awyr agored yn hanfodol i iechyd, lles a hapusrwydd plant ac mae hyn yn ddathliad o’r hawl i chwarae.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg a Gwasanaethau i Blant:
"Mae gan blant yr hawl i chwarae ac mae’n rhaid i ni gyd gydnabod a chefnogi’r hawl hwnnw Amcan "Ewch allan a Chware!" yw tynnu sylw at yr angen i sicrhau bod gan blant yr amser a’r lle angenrheidiol i chwarae o fewn y cymunedau maent yn byw. Mae’r digwyddiadau blaenorol bob amser wedi bod yn llwyddiannus ac rwy’n sicr y daw mwy o bobl ifanc ac ifanc eu hysbryd i ddigwyddiad eleni a chael amser da.
Y llynedd daeth dros 2,500 o bobl i’r digwyddiad a gobeithia’r trefnwyr i wneud digwyddiad y gorau un eto. Y cwbl sy’n rhaid i chi ddod gyda chi yw ysbryd chwareus a rhai dillad nad yw o bwys os cânt eu baeddu a’u gwlychu. Yn y gorffennol mae teuluoedd wedi dod â phicnic ac aros am y prynhawn!
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael gan y Tîm Datblygu Chwarae ar 01978 340740 neu e-bost play@wrexham.gov.uk