Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

12 Mehefin 2009

Gwahodd y gymuned i ddathlu ailagor y parc

Cynhelir penwythnos arbennig o weithgareddau cymunedol ym Mharc y Ponciau y penwythnos hwn i ddathlu ailagor y parciau ar ôl gwaith adnewyddu helaeth.

Bydd y parc yn cynnal diwrnod o weithgareddau cymunedol ddydd Sadwrn 13 Mehefin, o 12-4pm. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb a bydd yn cynnwys ffair hwyliog a cherddoriaeth fyw yn cael ei pherfformio ar y bandstand uwchraddedig gan fandiau lleol.

Bydd aelodau Bywyd Gwyllt Gogledd ddwyrain Cymru (NEWW) hefyd wrth law ar y diwrnod i siarad am y bywyd gwyllt amrywiol sy’n byw yn y parc, yn ogystal â chynnig gweithgareddau dan thema natur i bob aelod o’r teulu.

Bydd y clwb BMX lleol, sef ‘Wrexham Rebels’ hefyd wrth law i gynnig cynnal a chadw beiciau am ddim i unrhyw un sy’n dod â’u hen feiciau gyda nhw. Mae trac BMX newydd yn y parc – a ariannwyd gan gynllun Barclays Spaces for Sports.

Bydd y dathliadau yn parhau ar Dydd Sul, Mehefin 14 gyda gwasanaeth awyr agored ‘Songs of Praise’. Bydd y digwyddiad yn rhyngenwadol ac mae’n agored i bawb. Bydd corau lleol yn perfformio emynau traddodiadol a bydd lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd. Cynhelir y gwasanaeth rhwng 2 a 3 pm ac mae am ddim.

Derbyniodd Parc y Ponciau £504,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i’w wario ar welliannau ac ar adfer treftadaeth ddiwylliannol ardaloedd y Rhos a Phonciau. Gwariwyd yr arian ar waith adnewyddu pwysig gan gynnwys ailwampio’r bandstand ac amffitheatr gwylio newydd, a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau awyr agored drwy gydol y flwyddyn.

Ymhlith y gwaith ailwampio arall mae cyrtiau a phêl-fasged newydd, yn ogystal â pharc sglefrio newydd

Cwblhau’r cynllun oedd diwedd prosiect hir dymor rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, grwp cymunedol Cyfeillion Parc y Ponciau, Cyngor Cymuned y Rhos a Chronfa Treftadaeth y Loteri a fu’n gweithio gyda’i gilydd i adfer y parc i’w ogoniant blaenorol.

Am fwy o wybodaeth am Barc y Ponciau, cysylltwch â Katie Birks, Swyddog Datblygu’r Parc ar 01978 844028.

yn ôl i'r brig