Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
07 Awst 2012
Hwyl am ddim yn Nyfrbont PontcysyllteSafle Treftadaeth y Byd Wrecsam fydd lleoliad hwylddydd am ddim y dydd Sadwrn hwn sef 11 Awst.
Cynhelir y digwyddiad ym Masn Trevor Basin, gerllaw Dyfrbont Pontcysyllte rhwng 12pm a 5pm.
Dywed y trefnwyr y bydd ochr y gamlas yn fwrlwm o weithgaredd, gan gynnwys carwsél hen ffasiwn a gemau’r ffair i blant, sesiynau gwaith crefft gyda’r clwb ieuenctid lleol, stondin taflu at gnau coco, sleid gwynt anferth, peintio wynebau a’r difyrrwr ‘Gary Sausage.’
Bydd amrywiaeth o stondinau yn gwerthu’r hwn a’r llall, crefftau, gemwaith, raffl, llyfrau teganau a mwy. Bydd lluniaeth hefyd ar gael gan gynnwys cwn poeth o’r barbiciw sy’n cael ei gynnal tan Sgowtiaid Cyntaf Trevor.
Ymhlith y gweithgareddau ymarferol bydd dysgu sut i wneud blwch i adar neu lygod y maes gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a bydd cyfle i gael gwybod mwy am y prosiectau diweddaraf gan Grwp Camlas Plas Kynaston.
Gall y bobl sydd awydd mynd ar draws y ddyfrbont ar gwch cul fynd gyda ‘Jones the Boat.’
Tra gall y rheiny sydd ddim am groesi ymuno ag Ymddiriedolaeth y Cychod Camlas ar ‘Glas y Dorlan’ i weld cwch cul sydd wedi ei haddasu’n arbennig ac sy’n hygyrch ar gyfer pobl sydd â phroblemau symudedd.
Gall ymwelwyr hefyd fwynhau taith gerdded o amgylch Basn Trevor, mynd ar draws y ddyfrbont at Froncysyllte, neu gerdded i Cefn Mawr neu Barc Gwledig Ty Mawr.
Bydd staff yn y Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr newydd wrth law i roi cyfarwyddiadau a chyfeirio pobl at arddangosfeydd y tu mewn i’r adeilad am hanes y ddyfrbont.
Trefnir y digwyddiad gan Adran Asedau a Datblygu Economaidd Cyngor Wrecsam.
Mae mynediad i’r hwylddydd am ddim gyda digonedd o barcio am ddim gerllaw.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01978 292537 neu ewch i www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk .