skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


15 Medi 2008

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Ymateb i’r Bwriad i Gau Swyddfeydd Post

Yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach yr haf hwn gan Swyddfa’r Post Cyf o’i fwriad i gau 10 o swyddfeydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn gweithio’n agos gyda thrigolion lleol a Chynghorau Cymuned i lunio ymateb swyddogol a anfonwyd at Swyddfa’r Post Cyf.

Mae’r ymateb wedi ystyried safbwynt trigolion lleol, sydd wedi mynegi eu barn mewn holiaduron a ddosbarthwyd drwy ystod eang o ganolfannau ac ar y rhyngrwyd. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn amlygu barn gyfunol pob cyngor cymuned lle nodwyd fod swyddfa bost i gau.

Mae ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i Swyddfa’r Post Cyf yn ei gwneud hi’n amlwg bod y Cyngor yn gwrthwynebu’r Rhaglen Newid Rhwydwaith yn gyffredinol ac yn cefnogi camau’r Cynghorau Cymuned yn erbyn cau’r swyddfeydd. Mae’r Cyngor hefyd yn gofyn i Swyddfa’r Post Cyf i ailystyried ei benderfyniadau lleol ac ystyried cryfder y farn gyhoeddus o ddifrif.

Dywed y Cynghorydd Rodney Skelland, Aelod Arweiniol dros Lywodraethu Corfforaethol ac Adfywiad: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i gefnogi cymunedau lleol a dyma pam rydym yn cefnogi Cynghorau Cymunedol yn llawn yn eu gwrthwynebiad i gau’r swyddfeydd. Mae angen i Swyddfa’r Post Cyf sicrhau fod gwasanaeth effeithiol yn parhau i holl drigolion a chredwn y bydd cau’r swyddfeydd hyn yn cael effaith negyddol ar fywydau pobl a’u cymunedau. Ni chynigiwyd gwasanaeth allgymorth yn lle unrhyw un o’r swyddfeydd o fewn y Fwrdeistref Sirol ac mae Cyngor Wrecsam yn annog Swyddfa’r Post Cyf i ailystyried eu cynlluniau.”

Bydd Swyddfa’r Post Cyf nawr yn ystyried canfyddiadau yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyhoeddi eu penderfyniad. Gellir canfod mwy o wybodaeth am y Rhaglen Newid Rhwydwaith yn www.postoffice.co.uk

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint