skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


29 Gorffennaf 2008

Dweud eich dweud am gau Swyddfeydd Post Wrecsam

Yn dilyn cyhoeddiad Swyddfa’r Post Cyf am eu cynigion i gau 10 o swyddfeydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Cyngor Wrecsam wedi lansio ei broses ymgynghori ei hun i sicrhau fod barn trigolion lleol yn cael ei ystyried.

Mae Adran Datblygu Economaidd y Cyngor wedi datblygu holiadur y gall trigolion ei gwblhau i leisio eu barn yn y rhesymoliad cenedlaethol hwn gan Swyddfa’r Post. Dosberthir yr holiadur drwy ystod eang o allfeydd yn cynnwys canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden a phob adeilad y Cyngor. Bydd yr holiadur ar gael hefyd i’w gwblhau ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/swyddfarpost

Dywed y Cynghorydd Rodney Skelland, Aelod Arweiniol ar gyfer Llywodraeth Gorfforedig ac Adfywio: “Mae’r Cyngor yn cydnabod yr angen am ddarparu gwasanaethau swyddfa’r post ledled y Fwrdeistref Sirol ac mae eisiau sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn parhau ar gael i’r holl drigolion. Rydym yn annhebygol o fod mewn sefyllfa i wrthdroi pob penderfyniad ond rydym eisiau gwneud yn siwr fod barn defnyddwyr swyddfa’r post wedi cael ei ystyried beth bynnag a benderfynir yn derfynol.”

Mae Swyddfa’r Post wedi cyhoeddi ei fwriad i gau swyddfeydd yn Parc Acton, Bradle, Rhosrobin, Bryn Hyfryd, Marchwiel, New Broughton, Ponciau, Rhosymedre, Tanyfron ac Trefor. Mae’r cynlluniau hyn yn rhan o Gynllun Ardal Gogledd Cymru sydd, ynddo’i hun yn rhan o Raglen Newid Rhwydwaith ledled y wlad a fydd yn gweld cau 1150 o swyddfeydd post drwy Gymru. Cynllunnir y gwasanaethau “allgymorth” newydd i leihau effaith y cau hyn.

Mae Cyngor Wrecsam yn ceisio barn trigolion ar y newidiadau arfaethedig erbyn 8fed Medi 2008, a fydd yn caniatáu i’r ymatebion cyfunol gael eu bwydo i mewn i broses ymgynghori Swyddfa’r Post ei hun sy’n rhedeg hyd at 15fed Medi. Mae mwy o wybodaeth am gynlluniau Swyddfa’r Post ar gael ar eu gwefan www.postoffice.co.uk .

Am fwy o wybodaeth am holiadur y Cyngor ewch i www.wrecsam.gov.uk/swyddfarpost neu ebostiwch economicdevelopment@wrexham.gov.uk

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint