Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

22 Chwefror 2010



Y Dref y Paratoi ar gyfer Dathlu Dydd Gwyl Dewi gyda Marchnad a Gorymdaith

Mae paratoadau ymhell ar y ffordd ar gyfer dathliadau Dydd Gwyl Dewi Wrecsam sy’n cael eu disgwyl yn eiddgar.

Mae Adran Datblygu Economaidd y Cyngor yn trefnu marchnad grefftau a chynnyrch yn Sgwâr y Frenhines, yn ogystal â gorymdaith swyddogol trwy ganol y dref.

Bydd y farchnad yn cael ei chynnal ar Sgwâr y Frenhines o 10am tan 4pm ar Ddydd Sadwrn 27 Chwefror, gyda 60 o stondinau’n gwerthu amrywiaeth o grefftau a phob math o fwyd. Yn ogystal ag olewydd, olewau o wlad Groeg wedi’u gwasgu’n oer, ffrwythau, cnau a melysion o’r Dwyrain Canol, bydd digonedd o gynnyrch lleol gan gynnwys teisenni, caws, pasteiod cartref, jam, siytni, teisennau cri newydd eu crasu, cig a rhai selsig rhagorol, wrth gwrs.

Bydd ‘Cystadleuaeth Pencampwriaeth Selsig Wrecsam’ nodedig yn digwydd yn ystod y bore. Daeth y gystadleuaeth yn hen ffefryn yng nghalendr y dref ac mae’n gweld cigyddion o bob rhan o’r fwrdeistref yn cystadlu am deitl Pencampwr Gwneud Selsig Wrecsam! Bydd canlyniadau’r gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi o gwmpas 1.30pm.

Bydd ymwelwyr â’r farchnad yn gallu picio i Gaffi Florence, fel arfer i’w gael ym Mharc Gwledig Loggerheads, am goffi a rhai danteithion blasus a bydd y plant yn mwynhau’r reidiau ffair a sioe bypedau arbennig iawn o’r enw ‘Toby a’r Selsig’.

Denwyd rhyw 3,000 o ymwelwyr i farchnad y llynedd ac mae’r trefnyddion yn gobeithio y bydd mwy fyth yn dod eleni.

Bydd gorymdaith Dydd Gwyl Dewi ar ddydd Llun 1 Mawrth yn cychwyn am 2pm o Stryt y Twtil, ger y maes parcio talu a dangos oddi ar Ffordd Gyswllt San Silyn, gan ymlwybro ar hyd Stryt Yorke, y Stryd Fawr, Stryt yr Hôb, Bwa Argyle a Ffordd Rhosddu at brif fynedfa Neuadd y Dref yn Llwyn Isaf, lle bydd yr Anthem Genedlaethol yn cael ei chanu. Dylai’r gweithrediadau fod ar ben erbyn 2.30pm. Croeso i bawb ymuno â’r orymdaith neu ddim ond dod i ganu ar gae Llwyn Isaf.

I gael rhagor o wybodaeth am y naill ddigwyddiad neu’r llall, cysylltwch â Thîm Digwyddiadau Datblygu Economaidd Cyngor Wrecsam ar 01978 292538.

yn ôl i'r brig